Cyngor Sir Caerfyrddin yn erlyn perchennog busnes adeiladu a thirlunio o Rydaman

556 diwrnod yn ôl

Mae Cyfarwyddwr Sibley's Solutions Ltd yn Rhydaman wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin.  

Plediodd James Sibley yn euog i droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn Llys y Goron Abertawe am bum achos gwahanol lle cytunodd i wneud gwaith adeiladu/tirlunio, a derbyniodd gyfanswm o £34,290.77 gan ei ddioddefwyr am y gwaith hwnnw.  

Roedd y gwaith a wnaed o ansawdd gwael iawn ac mewn rhai achosion ychydig iawn o waith a wnaed, neu ddim gwaith o gwbl, er bod y dioddefwyr wedi talu am y gwasanaethau hyn. 

Dedfrydodd y Llys Sibley i: 

  • 16 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 12 mis  
  • 100 awr o waith di-dâl  
  • £12,000 o iawndal i'w rannu rhwng y pum dioddefwr  
  • Cael ei wahardd rhag bod yn Gyfarwyddwr y Cwmni am 4 blynedd 

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Safonau Masnach:

Honnodd James Sibley ar gam ei fod yn grefftwr proffesiynol ac rwy'n falch bod ein tîm Safonau Masnach wedi cael canlyniad cadarnhaol i'w ddioddefwyr.

Pan fyddwch yn gofyn i rywun wneud gwaith yn eich cartref, byddwch yn wyliadwrus bob amser, gwnewch ymchwil cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb a byddwch yn ofalus wrth dalu arian ymlaen llaw.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am grefftwr i wneud gwaith yn eu cartref i ddefnyddio'r cynllun Prynu â Hyder i ddod o hyd i fasnachwr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach. Mae pob busnes a restrir gyda 'Prynu â Hyder' wedi llwyddo mewn nifer o wiriadau er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl eich bod yn dewis busnes dibynadwy i wneud y gwaith.”  

Wrth ddewis masnachwr i wneud gwaith yn eich cartref, dilynwch yr awgrymiadau hyn: 

  • Sicrhewch eich bod yn cael o leiaf dri dyfynbris i gymharu prisiau  
  • Peidiwch â thalu'n llawn nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau a'ch bod yn fodlon ar y safon orffenedig  
  • Sicrhewch eich bod yn cael manylion am y gwaith yn ysgrifenedig  
  • Gofynnwch i'r Cyngor os nad ydych yn siŵr a fydd angen cael caniatâd cynllunio/rheoliadau adeiladu ar gyfer y gwaith 
  • Cymerwch eich amser. Peidiwch â gadael i neb eich brysio i wneud penderfyniad 
  • Os ydych yn cytuno ynghylch contract yn eich cartref, efallai y bydd gennych gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod.  

Ewch i wefan y Cyngor i weld masnachwyr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach.