Y Cabinet yn argymell cynigion y gyllideb ar gyfer 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd

555 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi diwygio strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 mewn ymateb i'w ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd. Mae toriadau arfaethedig i gyllid ysgolion a chynnydd mewn prydau ysgol a thaliadau am barcio wedi cael eu lleihau, ond ar yr un pryd bydd cynnydd is na'r disgwyl yn y dreth gyngor o 6.8% yn galluogi'r Cyngor i osgoi torri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.    

Wrth baratoi'r gyllideb fwyaf heriol ers blynyddoedd lawer, gwahoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb i roi eu barn, eu hawgrymiadau a'u dewisiadau ar gyfanswm o 17 o gynigion ar gyfer y gyllideb. Ymatebodd dros 2,000 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 80 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd y sir i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir i drafod ag aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau.

Ymhlith y prif newidiadau i gynigion cyllideb y Cyngor mae:

  • Cynnydd arfaethedig o 6.8% yn y dreth gyngor, sy'n llawer is na'r gyfradd chwyddiant gyfredol. Dim ond 25% o Gyllideb Refeniw Net y Cyngor gwerth £450m sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r balans sy'n weddill o'r grant Cymorth Refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru a'r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.
  • Mae'r gostyngiad arfaethedig o £2.7m yn y Gyllideb a Ddirprwyir i'r Ysgolion wedi cael ei thorri i £2m, er mewn termau arian parod go iawn, bydd ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cael £8m yn ychwanegol i dalu am chwyddiant, ynni a chostau staffio.
  • Y bwriad gwreiddiol oedd codi pris prydau ysgol 10% yn unol â chwyddiant, ond mae hyn wedi ei haneru i 5%.
  • I gydnabod y cyfnod anodd hwn i fasnachwyr canol trefi, mae'r cynnydd arfaethedig o 10% yn gysylltiedig â chwyddiant mewn taliadau am barcio hefyd wedi'i gwtogi i 5%. Yn y cyfamser, mae adolygiad o gyfnodau parcio am ddim yn cael ei gynnal. Mae'n werth nodi bod yn rhaid i'r Cyngor dalu Trethi Annomestig ar feysydd parcio, sydd ar hyn o bryd yn gyfystyr â ymhell dros £300,000 yn Nhref Caerfyrddin yn unig.
  • Mae £262,000 ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer Priffyrdd a Chanol Trefi, er mwyn helpu i leddfu'r gostyngiad blaenorol mewn cyllid oherwydd mesurau ariannol llym.
  • Mae toriadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a Grantiau Gwasanaethau Plant wedi cael eu gollwng yn llwyr.  

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu pwysau ariannol digynsail gan fod costau cynyddol chwyddiant, prisiau bwyd ac ynni ynghyd â mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24. 

Mae costau ynni'r Cyngor wedi treblu bron ac mae'r codiad cyflog i staff, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn llawer uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer 12 mis yn ôl, oherwydd y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant.

Yn dilyn setliad cyllido Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr, nododd Cyngor Sir Caerfyrddin fod angen pontio diffyg yn y gyllideb o dros £20 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf mae wedi'i phennu erioed, ac felly bydd yr arian a ddyrennir i awdurdodau lleol, sydd tua thri chwarter ein cyllid, yn brin iawn o'r hyn sydd ei angen ar y Cyngor i barhau gyda gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd. Mae'r Dreth Gyngor yn codi tua £112 miliwn y flwyddyn ac mae'n cyfrannu tuag at oddeutu chwarter cyfanswm y gyllideb net flynyddol.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Dreth Gyngor, a refeniw o grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: "Mae pob cyngor yn wynebu pwysau ariannol digynsail, oherwydd prisiau tanwydd cynyddol, cyfraddau llog sy'n parhau i godi a chwyddiant rhemp, sydd, yn ei dro, wedi arwain at setliadau cyflog uwch wrth i bobl sy'n gweithio geisio cael dau ben llinyn ynghyd mewn argyfwng costau byw.

"O ganlyniad i ffactorau byd-eang, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gorfod gwneud arbedion o £9.4m eleni. Daw hyn ar ben degawd o gyni cyllidol, gyda thoriadau o flwyddyn i flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus sy'n golygu bod y Cyngor eisoes £100m ar ei golled nag yr oeddem ni 10 mlynedd yn ôl.

“Hoffwn ddiolch i'r preswylwyr hynny sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y cyfnod cynllunio cyllideb yma. Mae wedi bod yn hynod o anodd gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2023-24, ond mae'r adborth cyhoeddus yn dangos bod preswylwyr yn gwerthfawrogi hyn, ac yn fodlon cymryd rhan yn y broses.”

 

Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi argymell ei Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd, a fydd yn gweld buddsoddiad o £265m o fewn y sir dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd £73m o gyllid yn cael ei gyfeirio tuag at ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella adeiladau ysgolion, £27m ar gyfer prosiectau Adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £86m i brosiectau sy'n cefnogi'r Fargen Ddinesig sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli, a £59m i wella seilwaith economaidd lleol Sir Gaerfyrddin a'r amgylchedd ehangach. Cefnogir y pecyn cynhwysfawr ac eang hwn gan gyllid wrth Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r Cyngor ei hun.

Aeth y Cynghorydd Alun Lenny ymlaen i ddweud: "Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflwyno rhaglen enfawr o fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin. Buddsoddiadau yn ein hysgolion, yn ein seilwaith a'n cysylltiadau trafnidiaeth, ac yn ein cyfleusterau diwylliannol a hamdden – ym mhob maes, rydym wedi cyflawni er gwaethaf yr heriau digynsail rydym wedi'u hwynebu yn sgil pandemig a chostau byw cynyddol.

“Wrth i ni flaenoriaethu ein buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer 2023/24, rydym yn ymwybodol o'r anawsterau parhaus sy'n wynebu ein preswylwyr.  Rwyf, felly, yn falch iawn o geisio cymeradwyaeth gan gydweithwyr yn y Cabinet ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf gynhwysfawr hon a fydd unwaith eto yn rhoi hwb i'r economi leol ac yn darparu cyfleusterau newydd a gwell y gellir eu mwynhau gan breswylwyr ledled y Sir."

Mae disgwyl i Gyllideb Refeniw 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2023/24 i 2027/28 gael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 1 Mawrth.