Lansio ymgynghoriad 'Teithio Llesol Caerfyrddin'

558 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymgynghoriad ar gyfer Tref Caerfyrddin, gyda'r nod o ddatblygu ystod ehangach o opsiynau teithio i'w gwneud hi'n haws ac yn fwy fforddiadwy i gael mynediad at waith, addysg, unedau manwerthu a gwasanaethau eraill, ac, wrth wneud hynny, cynorthwyo i ddatgarboneiddio'r dref a'i hadfer ar ôl covid.

Bydd gwell opsiynau Teithio Llesol yng Nghaerfyrddin yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, tagfeydd traffig, ansawdd yr aer a chysylltiadau lleol rhwng cymunedau. Bydd yr opsiynau teithio gwell hyn hefyd yn anelu at gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref trwy annog mwy o bobl i deithio o amgylch y dref am gyfnodau hirach.

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio datblygiad pellach prif cynllun Teithio Llesol, sydd â'r nod o'i gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio o amgylch y dref drwy ddarparu opsiynau trafnidiaeth diogel a fforddiadwy. Dyma gyfle i breswylwyr Sir Gaerfyrddin gymryd rhan er mwyn helpu i lywio'r cynlluniau hyn yn y dyfodol.

Ariennir y gwaith hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cyd-fynd â'r amcanion a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, gyda'r nod o wella cysylltiadau Teithio Llesol er mwyn rhoi mwy o opsiynau i bobl ar sut maen nhw'n teithio. Yn ei dro, bydd hyn yn cefnogi'r Amcanion Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i hyrwyddo cymdeithas lewyrchus, iach a chyfartal, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Ceisir barn trigolion, defnyddwyr gwasanaeth, cymudwyr a pherchnogion busnes er mwyn sicrhau bod yr ymarfer hwn mor fuddiol â phosibl i'r gymuned gyfan. Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried trwy astudiaethau dichonoldeb penodol yn unol â Chanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus 'Teithio Llesol Caerfyrddin' yn para am 6 wythnos o ddydd Llun, 20 Chwefror tan ddydd Sul, 2 Ebrill. Bydd pedwar digwyddiad galw heibio cymunedol i edrych ar argymhellion, rhoi adborth a gofyn cwestiynau yn cael eu cynnal yn Hwb Menter Caerfyrddin, 4 Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA ar y dyddiadau canlynol:

Digwyddiad 1 - Dydd Mawrth, 14 Mawrth, 10am - 4pm

Digwyddiad 2 - Dydd Mercher, 15 Mawrth, 10am - 4pm

Digwyddiad 3 - Dydd Mawrth, 21 Mawrth, 10am - 4pm

Digwyddiad 4 - Dydd Mercher, 22 Mawrth, 10am - 4pm

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Rydym eisiau gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle deniadol, glanach, a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo; ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi amcanion a blaenoriaethau buddsoddi clir i wella teithio llesol o fewn cymunedau. Bydd y cymorth hwn yn ein helpu i gael mynediad at fuddsoddiad seilwaith wedi'i dargedu a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio gwasanaethau yng Nghaerfyrddin a'r cyffiniau yn rhad ac yn gynaliadwy.

“Byddwn yn annog pawb i leisio eu barn ar ymgynghoriad Teithio Llesol Caerfyrddin, gan ein bod eisiau clywed safbwyntiau pobl er mwyn penderfynu sut all y Cyngor gefnogi ac annog teithio llesol o fewn Caerfyrddin fydd er lles y dref yn ei chyfanrwydd.”

Os na allwch ddod i un o'r digwyddiadau, mae'r holl wybodaeth ar gael ar-lein yma: https://www.carmarthenshire.gov.wales/carmarthen-active-travel www.sirgar.llyw.cymru/teithio-llesol-yng-nghaerfyrddin

Gallwch roi eich barn drwy gwblhau arolwg ar-lein. Os ydych am ofyn cwestiwn neu angen copi wedi'i argraffu o'r deunyddiau, gydag amlen RADBOST, anfonwch e-bost at: carmactivetravel@mottmac.com.

Cymerwch ran a chyflwynwch eich barn erbyn dydd Sul, 2 Ebrill.