Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn dychwelyd i Gaerfyrddin

572 diwrnod yn ôl

Mae sefydliadau, ysgolion a thrigolion o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i ddod ynghyd i ddathlu ein Nawddsant yn yr orymdaith Dydd Gŵyl Dewi flynyddol ddydd Sadwrn, 4 Mawrth.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ger Eglwys San Pedr, yn mynd ar hyd Heol y Brenin ac yn gorffen yn y Clos Mawr, lle bydd pawb yn morio canu 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan.

Gofynnir i bawb sy'n cymryd rhan yn yr orymdaith eleni gwrdd ger Eglwys Sant Pedr am 11am.

Hefyd bydd modd parcio am ddim ar y diwrnod ym mhob un o feysydd parcio'r cyngor yn y dref.