Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer rhaglen i raddedigion y Cyngor

556 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am bobl frwdfrydig sy'n gadael y brifysgol i ymuno â'r rhaglen lwyddiannus i raddedigion ar gyfer 2023 

Gan adeiladu ar lwyddiant ysgubol ein rhaglen flaenorol i raddedigion, mae'r cynllun dwy flynedd hwn yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous sy'n cyfuno profiad yn y swydd, datblygiad mewnol, a chymhwyster ôl-raddedig, er mwyn darparu cam cyntaf ardderchog tuag at yrfa lwyddiannus.  

Mae'r cyfleoedd sydd ar gael yn cynnwys: 

  • Datblygwr Meddalwedd Graddedig  
  • Hyfforddai Graddedig Perfformiad a Busnes 
  • Syrfëwr Adeiladu Graddedig x 2 
  • Swyddog Perfformiad a Gwybodaeth Graddedig 
  • Hyfforddai Graddedig (Strategaeth a Pholisi Gwastraff) 
  • Swyddog Blaen-gynllunio (Hyfforddai Graddedig) 
  • Peiriannydd Sifil / Cynllunydd Cludiant Graddedig 
  • Hyfforddai Graddedig Datblygu a Gwella Gwasanaethau 

Ewch i'n Canolfannau Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman ddydd Mercher 15 Chwefror rhwng 10am a 3pm i gael gwybodaeth am ein swyddi gwag i raddedigion. 

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

Mae ein rhaglen lwyddiannus i raddedigion yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'r rhai sy'n gadael y brifysgol gael profiad gwerthfawr a pharhau â'u haddysg mewn sefydliad deinamig a blaengar sy'n newid yn barhaus.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n rhaglen, sy'n agored i bob oedran, a'n helpu i lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Gaerfyrddin”.