Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymeradwyo cynllun dyraniadau tai cymdeithasol

564 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i gymryd y camau cyntaf tuag at gyflawni ymagwedd Ailgartrefu Cyflym Llywodraeth Cymru, wrth gyflwyno Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys a fydd yn canolbwyntio ar y ffordd caiff anghenion tai pobl Sir Gâr eu diwallu.   

Cafodd y Polisi Brys, a luniwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau, ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet ac mae wedi'i greu i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau o ran tai ac i leihau'r amser mae'r rhai mwyaf anghenus yn aros am dai cymdeithasol.   

Bydd y Polisi yn galluogi proses o baru uniongyrchol tai ag ymgeiswyr sydd â'r angen mwyaf, er enghraifft y rhai sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu'r rhai sydd angen tai ar frys. Bydd hefyd yn galluogi i gartrefi gael eu dyrannu'n gynt ac i'r preswylwyr hynny y maent fwyaf addas ar eu cyfer. 

Mae gan y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys arfaethedig dri band diffiniedig: 

Band A: Ffafriaeth ychwanegol – Y rhai sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu'r rhai sydd angen tai ar frys. 

Band B: Angen am dŷ: Ffafriaeth resymol - Gan gynnwys preswylwyr sydd angen symud oherwydd anghenion meddygol/lles, y rhai sy'n ceisio trosglwyddo i eiddo llai (tanfeddiannu), y rhai sydd am symud o gartref wedi'i addasu nad oes ei angen arnynt mwyach neu'r rhai sy'n byw mewn eiddo gorlawn neu mewn amodau afiach ar hyn o bryd.   

Band C: Ymgeiswyr nad oes ganddynt angen am dŷ  

Ni fydd ymgeiswyr sy'n gallu diwallu'n ariannol eu hangen eu hunain am dai, ymgeiswyr nad oes ganddynt gysylltiad lleol â Sir Gaerfyrddin nac ymgeiswyr, neu aelodau o'u haelwyd, sydd wedi'u dyfarnu'n euog o ymddygiad annerbyniol, yn cael ffafriaeth o dan y Polisi hwn. 

Fel rhan o'r Polisi, anfonir negeseuon atgoffa at ymgeiswyr i'w hatgoffa i ailgofrestru eu diddordeb 6 mis a 12 mis ar ôl eu dyddiad cofrestru. Gall methu ag ailgofrestru, defnyddio eu cyfrif neu gynnig am eiddo sy'n diwallu eu hanghenion olygu y bydd ymgeiswyr yn cael eu tynnu o'r Gofrestr Tai er mwyn sicrhau mai dim ond y rhai y mae angen arnynt y gwasanaeth sydd wedi'u cofrestru. Darperir cymorth i'r bobl sydd ei angen i wneud hyn.  

Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen - Craffu sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Polisi:

Fel Cadeirydd y gweithgor trawsbleidiol a ddatblygodd y Polisi Brys hwn, mae'n bleser gen i gyflwyno'r Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys i'r Cabinet. Bydd y Polisi Brys hwn yn cefnogi trigolion yn well ac yn gwella'r broses i'r rhai sydd â'r angen tai mwyaf, yn ogystal â gwneud y ffordd y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin yn fwy effeithiol".  

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Diolch i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau am ddatblygu'r Polisi Brys, a fydd yn trawsnewid y modd mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y Polisi Brys yn diffinio'n gliriach anghenion y rhai sydd ar y gofrestr ac yn galluogi'r Cyngor i ddarparu tai addas yn gynt i'r rhai sydd â'r angen tai mwyaf. Bydd pob cartref yn cael ei baru'n uniongyrchol a dim ond os na fydd yn bosib paru eiddo â rhywun mewn amgylchiadau eithriadol neu Fand A o'r gofrestr fydd yr eiddo'n cael ei hysbysebu ar wefan Canfod Cartref.   

Cysylltir yn fuan â thrigolion sydd ar y gofrestr tai ar hyn o bryd i roi gwybod sut bydd dyraniadau tai cymdeithasol yn newid o ganlyniad i'r Polisi Brys.