Trefi yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i adnewyddu canol y trefi

302 diwrnod yn ôl

Gall perchnogion a lesddeiliaid safleoedd masnachol mewn trefi ar draws Sir Gaerfyrddin wneud cais am gyllid o hyd at £2,000 i adfywio a gwella estheteg blaenau eu siopau. Daw'r cyllid i Gyngor Sir Caerfyrddin drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, fel rhan o'r agenda Ffyniant Bro.

Mae Adfywio Canol Trefi Gwledig yn gronfa wedi'i thargedu sy'n darparu cymorth i safleoedd canol trefi gwledig wella blaenau eu siopau. Mae'r gronfa yn gynnig newydd ac yn rhan o'r Rhaglen Deg Tref sy'n cynnig cyfle i berchnogion a lesddeiliaid safleoedd masnachol wneud cais am gymorth ariannol i ailaddurno tu allan eu hadeiladau, gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol, ac ailosod nodweddion sylfaenol, fel ffenestri, cwteri neu waith rendro, a gosod canopïau newydd ac arwyddion dwyieithog newydd. Mae galwad newydd am geisiadau bellach ar agor ac mae gan y rhai sy'n dymuno gwneud cais tan 31 Ionawr 2024 i wneud hynny. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cyflwyno cyfle cyllido cyffrous arall i fusnesau Sir Gaerfyrddin, sy'n ymestyn cyllid i'r tair prif dref, sef Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli, yn ogystal â Phorth Tywyn. Mae'r Gronfa Adfywio Canol Trefi, sy'n agored i berchnogion a lesddeiliaid safleoedd masnachol, yn cynnig hyd at £2,000 i'r rhai sy'n derbyn y grant allu addurno ffasâd eu hadeilad, ond hefyd ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyffredinol ac ailosod nodweddion sylfaenol, fel ffenestri, cwteri neu waith rendro. I gael gwybodaeth am gyllid grant Adfywio Canol Trefi, neu i wneud cais am y grant, ewch i'n gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Adfywio Canol Trefi, bydd swyddogion y cyngor ar gael yng nghanolfannau Hwb Sir Gaerfyrddin i roi cyngor. Nodir y dyddiadau a’r amserau isod.

Rhydaman – Dydd Mawrth 16 Ionawr 10:00 – 16:00
Caerfyrddin – Dydd Mawrth 23 Ionawr 10:00 – 16:00
Llanelli – Dydd Mawrth 30 Ionawr 10:00 – 16:00

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rwy'n croesawu'r cyfleoedd y mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn eu cynnig i Sir Gaerfyrddin. Bydd y cyllid yn galluogi busnesau i wella golwg eu hadeiladau, gan eu gwneud yn fwy deniadol nid yn unig i dwristiaid ond i'w cymunedau hefyd. Bydd y ddau gynllun yn cyfrannu at wella economi leol trefi ar draws Sir Gaerfyrddin.

Rhaid i geisiadau llwyddiannus ar gyfer y ddau gynllun sicrhau y bydd eu prosiectau'n cael eu cwblhau erbyn mis Medi 2024.