Sefydliadau Sir Gaerfyrddin yn elwa ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

263 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ystod eang o brosiectau yn y sir, o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda uchelgeisiol Llywodraeth y DU, Ffyniant Bro

Sefydlwyd pum Rhaglen Angor gan y Cyngor i ddosbarthu cyllid ar gyfer amrywiaeth o fusnesau, clybiau, sefydliadau, cymdeithasau a chynlluniau o fewn y sir. Mae'r Rhaglenni Angor yn cynnwys:

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy
Mae 35 sefydliad ar draws Sir Gâr wedi llwyddo i gael cyllid gan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy, sydd wedi'i chreu i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i helpu i gryfhau gwead cymdeithasol cymunedau, gan feithrin balchder bro yn ogystal â sicrhau budd economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus wedi derbyn grantiau sy'n amrywio o £10k i £250k i ganolbwyntio ar themâu sydd wedi'u nodi fel blaenoriaeth yng Nghynllun Buddsoddi Strategol y Sir; mae'r rhain yn cynnwys Trechu Tlodi, yr Economi Gylchol, Llesiant a Hamdden, Mynediad at Wasanaethau, Yr Amgylchedd a Gwyrdd, Twristiaeth, Diwylliant a Threftadaeth ac Ymgysylltu Cymunedol.

Rhaglen Wledig
Mae hon wedi'i rhannu'n 3 elfen.

1. Cronfa Arloesi Gwledig
Hyd yma, mae 9 sefydliad wedi cael cyllid gan y Gronfa Arloesi Gwledig, sydd wedi'i chynllunio i gael busnesau a chymunedau lleol i fod yn rhan o ddarparu atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig.

2. Hwb Bach y Wlad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymestyn yr ystod o gymorth a chyngor sydd ar gael mewn cymunedau gwledig ledled y sir drwy gyflwyno Hwb Bach y Wlad.

Bydd y model gwasanaeth cwsmeriaid newydd yn ei gwneud yn haws i drigolion mewn ardaloedd mwy gwledig gael mynediad at ystod o wasanaethau a ddarperir eisoes gan y Cyngor ar-lein, ar y ffôn ac yn nhri Hwb gwasanaethau cwsmeriaid y sir yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Bydd y model gwasanaeth cwsmeriaid newydd yn ei gwneud yn haws i drigolion mewn ardaloedd mwy gwledig gael mynediad at ystod o wasanaethau a ddarperir eisoes gan y Cyngor ar-lein, ar y ffôn ac yn nhri Hwb gwasanaethau cwsmeriaid y sir yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

3. Menter Deg Tref
Mae Menter Deg Tref Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei sefydlu i gefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y sir. Cefnogi adferiad a thwf trefi gwledig a'u hardaloedd cyfagos.

Rhaglen Datblygu Lle
Mae'r rhaglen hon wedi'i rhannu'n 3 elfen.

1. Cronfa Ddigwyddiadau
Nod y gronfa hon yw cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Bydd y tîm Datblygu Lle yn gweithio'n agos gyda Chynghorau Tref ac Ardaloedd Gwella Busnes yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin, sef Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Hyd yn hyn, mae 8 digwyddiad wedi'u cefnogi gan ddefnyddio'r cyllid hwn.

2. Y Gronfa Eiddo Gwag
Mae'r cyllid hwn yn ceisio gwneud defnydd o gynifer o eiddo gwag ag sy'n bosibl yn y prif drefi. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyllid i hwyluso gwaith ar eiddo gwag, gan ddefnyddio adeiladau unwaith yn rhagor.

3. Mynd i'r afael â Chanol Trefi
Bydd Mynd i'r afael â Chanol Trefi yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno cynlluniau ailintegreiddio ar gyfer Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin drwy ymyriadau bach angenrheidiol fel yr amlygwyd ar lefel leol.

Cynorthwyo Busnesau Lleol
Mae 4 elfen i'r cymorth hwn.

1. Grantiau Cychwyn Busnes a Thwf Busnes
Mae'r grantiau cychwyn busnes yn amrywio rhwng £1K a £10k fel rhan o'r ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd. Nod yr ymyriad grant hwn yw cryfhau busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi. Hyd yn hyn, mae cyfanswm o 15 o grantiau cychwyn busnes a 46 o grantiau twf wedi cael eu cynnig.

2. Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Bydd y gronfa yn helpu busnesau i dyfu a ffynnu tra byddant ar eu taith carbon sero net. Mae cyfanswm o 8 o sefydliadau wedi derbyn y cyllid hwn hyd yn hyn. Mae'r rhaglen hon yn rhaglen dreigl a bydd yn parhau os oes cyllid ar gael.

3. Cronfa Datblygu Eiddo
Bydd y gronfa hon yn helpu datblygwyr i godi adeiladau diwydiannol a masnachol sy'n anelu at greu cyfleoedd cyflogaeth. Mae grantiau o hyd at £750k ar gael drwy'r gronfa hon.

Pobl a Sgiliau
Mae'r angor olaf wedi'i rannu'n 3 rhan.

1. Y Gronfa Sgiliau a Chyflogadwyedd
Nod y gronfa hon yw darparu cefnogaeth i sefydliadau sy'n gweithio bellaf o'r farchnad lafur ac sydd â rhwystrau cymhleth ac ymyrraeth arbenigol. Mae 6 phrosiect wedi'u hariannu hyd yn hyn.

2. Cymorth Cyflogadwyedd
3. Cymorth Ieuenctid
Bydd y tîm sy'n edrych yn benodol ar Gymorth Cyflogadwyedd a Chymorth Ieuenctid yn helpu i gael pobl yn ôl i'r gwaith ac yn rhoi cyfleoedd gwirfoddol i unigolion gael profiad gwaith.

Yn ogystal â hyn, mae rhaglen rhifedd oedolion, Multiply, wedi derbyn £5.5 miliwn o gyllid i weithio gydag oedolion sydd â sgiliau rhifedd gwael. Y nod yw bod cyfranogwyr y rhaglen yn ennill cymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a thyfu ac uwchsgilio ein gweithlu yn Sir Gaerfyrddin. Dyfarnwyd grantiau i ddau brosiect o dan y rhaglen Multiply hyd yma. Byddant yn cyflwyno dull dysgu cyfunol o ddarparu hyfforddiant rhifedd a sgiliau sy'n ail-greu cyd-destunau bywyd go iawn ac yn rhoi hwb i lefelau hyder. Bydd y prosiectau hyn yn cefnogi aelodau o'r cyhoedd sy'n agored i niwed yn ogystal ag unigolion sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi nodi blaenoriaethau lleol nad ydynt yn cael eu cwmpasu o dan y rhaglenni Angor. Hyd yn hyn, mae 22 o Brosiectau Annibynnol wedi llwyddo i dderbyn grantiau, yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol. Ar hyn o bryd mae'r Prosiectau Annibynnol yn ymdrin â rhaglenni sy'n cynnwys materion yn ymwneud â'r maes digidol, iechyd a ffitrwydd, newid amgylcheddol, economi gylchol, sero net, cymorth gwirfoddoli, cymorth menter gymdeithasol, modelau bwyd lleol, teithio llesol a thrafnidiaeth wledig, addysg, twristiaeth strategol / diwylliant / treftadaeth.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025. Mae'n gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i adeiladu balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd.Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r gronfa.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am sut y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei chyflawni yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rwyf wrth fy modd bod cynifer o glybiau, cymdeithasau a sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i gael y cyllid hwn, gan ei fod yn gyfle cyffrous iawn i weithio gyda phartneriaid lleol i dyfu economi Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod yr arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n pobl a'n busnesau. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr amrywiaeth o brosiectau fydd yn cael eu creu o ganlyniad i'r arian grant hwn.