Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi cyngor ar sgamiau Nadolig

368 diwrnod yn ôl

Mae'n dymor rhoi anrhegion, ond peidiwch â rhoi anrheg Nadolig cynnar i sgamwyr. Mae'r Nadolig yn gyfnod pan mae mor hawdd i dynnu ein sylw - anrhegion i'w prynu, teulu a ffrindiau i'w bwydo. Mae'n hawdd ynghanol yr holl brysurdeb i gael eich twyllo gan sgam ac mae sgamwyr yn gwybod hynny, sy'n golygu bod y tymor gwyliau yn gyfle gwych iddyn nhw.

Dyma rai sgamiau i gadw llygad amdanynt dros y Nadolig a rhai awgrymiadau defnyddiol i'ch diogelu chi a'ch anwyliaid.

Sgamwyr dros y ffôn

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i'r afael â sgamwyr dros y ffôn yn ystod yr ŵyl.

Mae Safonau Masnach wedi rhwystro dros 178,000 o alwadau niwsans a sgamiau a wnaed i drigolion agored i niwed, ers i'r prosiect atal galwadau niwsans TruCall ddechrau yn Sir Gaerfyrddin.

Gallwch helpu'ch anwyliaid i gael rhywfaint o heddwch y Nadolig hwn drwy eu hannog a'u cefnogi i wneud cais am ddyfais atal galwadau niwsans TrueCall am ddim i atal twyllwyr dros y ffôn a galwyr niwsans. Gwnewch gais nawr Galwadau Ffôn Niwsans a Sbam (gov.wales)

Sgamiau cyfryngau cymdeithasol

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrwng poblogaidd ar gyfer sgamwyr. Yn ôl y rheoleiddiwr Ofcom, mae tua naw o bob 10 o bobl wedi profi sgam ar-lein, gyda bron i chwarter wedi dod ar draws y sgam ar gyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf.

Mae'r sgamiau hyn fel arfer wedi'u cynllunio i ymddangos yn ddilys, gallant ddod ar ffurf ffrind ffug neu ramant newydd, cynigion a buddsoddiadau unigryw gan fusnes ffug, neu ddynwared brand dibynadwy gan ddefnyddio logos swyddogol.

Bydd sgamwyr yn aml yn esgus eu bod o ffynonellau cyfreithlon, gan gynnig cymhelliant deniadol i glicio ar fargeinion sy'n swnio 'rhy dda i'w credu'. Maen nhw'n twyllo'r dioddefwr i drosglwyddo gwybodaeth bersonol naill ai trwy negeseuon preifat neu drwy gysylltu â gwefan amheus.

Mae sgamwyr yn aml yn esgus bod yn hysbysebwyr ar gyfryngau cymdeithasol. Maen nhw'n creu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac yn talu er mwyn hysbysebu eu neges sgam. Maent yn dibynnu ar y ffaith eich bod chi yn gyfarwydd ac yn ymddiried mewn cynnig gan hysbysebwyr dilys ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn wyliadwrus pan welwch gwmnïau, sefydliadau neu frandiau newydd yn ymddangos ar eich ffrwd. Dylech hefyd fod yn amheus os ydych chi'n gweld cyfrif cyfryngau cymdeithasol newydd yn hysbysebu ar ran cwmni rydych chi'n ei adnabod yn dda. Gall fod yn sgamiwr sy'n esgus bod yn gangen newydd neu'n gyfrif newydd ar gyfer y brand hwnnw.

Negeseuon WhatsApp

Mae'r tîm Safonau Masnach wedi gweld nifer cynyddol o sgamiau yn defnyddio'r ap negeseuon, WhatsApp.

Efallai y byddant yn dynwared rhywun annwyl, fel y sgam 'helpu ffrind', yn rhannu cynigion am swyddi ffug neu'n hyrwyddo bargeinion a chystadlaethau sy'n rhy dda i'w credu.

Er enghraifft , mae neges hyrwyddo sy'n sgam yn cael ei hanfon yn syth at ffôn dioddefwr, gan ofyn i'r derbynnydd glicio ar y ddolen er mwyn hawlio gwobr. Bydd clicio ar y ddolen yn aml yn eich arwain at arolwg ar wefan a fydd yn gofyn i chi lenwi eich gwybodaeth bersonol cyn i'r 'wobr' gael ei hanfon atoch.

Pan fydd yr arolwg wedi'i gwblhau, fe'ch gofynnir weithiau i ddewis ffrindiau WhatsApp i rannu'r fargen â nhw. Yna anfonir y neges hyrwyddo a'r ddolen at yr holl gysylltiadau hynny a ddewisir mewn neges sgwrsio grŵp, gan barhau i ledaenu'r sgam.

Gwefannau siopa ac arwerthiant ar-lein

Bydd twyllwyr yn hysbysebu eitem i'w gwerthu'n aml am bris bargen o'i gymharu â rhestrau eraill tebyg. Efallai bod ganddynt luniau o'r eitem, felly mae'n ymddangos ei fod yn werthiant gwirioneddol. Mae'r sgamiwr weithiau'n annog y prynwyr i symud i ffwrdd i gwblhau'r trafodiad. Efallai y byddant hefyd yn mynnu bod y prynwr yn talu trwy drosglwyddiad banc, gan sicrhau eich bod yn colli unrhyw amddiffyniad y gallech ei gael rhag defnyddio gwasanaethau talu trydydd parti fel PayPal ac Apple Pay. Unwaith y gwneir taliad, ni fydd y 'gwerthwr' yn anfon yr eitem, neu os ydych yn gofyn am gasglu'r eitem efallai y bydd yn gwneud esgusodion ynghylch pam na allwch gasglu'r eitem neu'n rhoi cyfeiriad ffug i chi.

Twyll Tocynnau

Gwerthir y rhan fwyaf o docynnau ar gyfer digwyddiad drwy wefannau ag enw da sy'n cael eu gweithredu gan hyrwyddwyr, lleoliad y digwyddiad neu'r asiantau swyddogol. Cynigir llawer o docynnau i'w gwerthu ar wefannau ailwerthu Mae twyllwyr yn sefydlu gwefannau gwerthu tocynnau ffug neu'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i werthu tocynnau nad oes ganddynt. Pan fydd y taliad yn cael ei wneud, naill ai ni fyddwch yn derbyn y tocynnau neu bydd y tocynnau a gewch yn rhai ffug neu'n rhai na ellir eu trosglwyddo.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Yn anffodus, mae rhai pobl yn ceisio twyllo trigolion a dwyn arian oddi wrthynt, arian y maent wedi gweithio'n galed amdano.
Byddwn yn annog pawb i wrando ar gyngor ein tîm Safonau Masnach a bod yn wyliadwrus iawn dros y Nadolig o ran sgamwyr seibr a sgamwyr dros y ffôn.

Os ydych wedi profi unrhyw un o'r sgamiau hyn, cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth 0808 223 11 33 neu ewch i'w gwefan www.citizensadvice.org.uk