Newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros y Nadolig

369 diwrnod yn ôl

Bydd casgliadau biniau yn ystod wythnos y Nadolig yn digwydd dau ddiwrnod yn ddiweddarach na'ch diwrnod casglu arferol.

 

Dydd Llun 25 Rhagfyr ➡ Dydd Mercher 27 Rhagfyr

Dydd Mawrth 26 Rhagfyr ➡ Dydd Iau 28 Rhagfyr

Dydd Mercher 27 Rhagfyr ➡ Dydd Gwener 29 Rhagfyr

Dydd Iau 28 Rhagfyr ➡ Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr

Dydd Gwener 29 Rhagfyr ➡ Dydd Sul 31 Rhagfyr

 

O ddydd Llun 1 Ionawr (Gŵyl Banc y Flwyddyn Newydd) cynhelir casgliadau un diwrnod yn hwyrach na'r arfer ar gyfer yr wythnos honno.

Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar eich diwrnod casglu, a chofiwch mai dim ond tri bag du y gallwch eu rhoi mas ac ailgylchwch gymaint â phosibl. 

Bydd ein holl ganolfannau ailgylchu ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a byddant yn cau am 12 canol dydd ar Noswyl Nadolig a Nos Galan.

Cofiwch fod modd ailgylchu pob rhan o goeden Nadolig go iawn!  Ewch â'ch coeden Nadolig go iawn i unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf ym mis Ionawr a chael bag o Gompost Hud Myrddin am ddim.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio eich diwrnod casglu a lliw eich bagiau, ewch i'n tudalen ailgylchu