Esgairhir Isaf Bwlchnewydd - ffordd yr C2043 yn cael ei hailagor

260 diwrnod yn ôl

Heddiw, 22 Rhagfyr 2023,  mae ffordd Esgairhir Isaf Bwlchnewydd - yr C2043 wedi ailagor i gerbydau gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gan adfer y mynediad arferol rhwng Trefechan a Bwlchnewydd ar hyd yr C2043.
Bu rhan o'r ffordd rhwng Bwlchnewydd a Threfechan ar gau ers 30 Hydref 2023, pan achosodd tirlithriad i'r ffordd suddo.
Mae ailagor y ffordd yn garreg filltir bwysig wrth wella rhwydwaith ffyrdd y sir ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ddiolchgar i drigolion y gymuned leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth drwy gydol y broses adeiladu. 
Ar ôl cwblhau'r gwaith peirianneg, mae gwaith pellach wedi'i drefnu ar gyfer ffordd yr C2043, Esgairhir Isaf Bwlchnewydd yn y flwyddyn newydd. 
8 Ionawr 2024 - Bydd contractwyr yn dychwelyd i'r safle i gwblhau'r gwaith sy'n weddill, sy'n cynnwys gwelliannau draenio priffyrdd angenrheidiol. Bydd hyn yn golygu cau un lôn dros dro dan reolaeth signalau traffig dwy ffordd i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd. 
30 Ionawr 2024 - Bydd y ffordd ar gau am ddiwrnod cyfan er mwyn hwyluso'r gwaith o osod arwyneb newydd ar y ffordd. 
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol yn ogystal â modurwyr am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith peirianneg sylweddol hwn. Rwy'n falch o ddweud bod ailagor ffordd Esgairhir Isaf Bwlchnewydd - yr C2043 yn nodi dechrau pennod newydd, lle bydd trigolion a busnesau fel ei gilydd yn elwa ar y cysylltedd sydd wedi'i adfer a'i wella. 
Unwaith eto, ar ôl dim ond wythnos ers ailagor ffordd yr A485 Brynseison - Alltwalis, hoffwn hefyd ddiolch i Adrannau Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir, staff gweithredol a chontractwyr y fframwaith am gyflawni'r gamp beirianyddol hon mewn cyfnod byr o amser, diolch.