Dweud eich dweud am gynllun y Cyngor i ddod o hyd i arbedion cyllideb
365 diwrnod yn ôl
Gan nad yw cyfradd chwyddiant wedi gostwng mor gyflym â'r disgwyl, ac, o ganlyniad, fod codiadau cyflog uwch na'r disgwyl i weithwyr y Cyngor ac athrawon, ynghyd â chynnydd eithriadol yn y galw am wasanaethau mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, gofal oedolion a phlant, mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn dilyn setliad cyllido is na chwyddiant Llywodraeth Cymru o 3.3%, a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr, mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin bontio diffyg o dros £22 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2024/2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod iddi wynebu'r "dewisiadau cyllideb mwyaf llym a phoenus i Gymru yn yr oes ddatganoli" wrth baratoi ei chyllideb ddrafft, sy'n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) hollbwysig a ddyrannwyd i awdurdodau lleol. Mae'r cynnydd o 3.3% yn yr RSG, sy'n cyfrif am tua thri chwarter ein cyllid, yn brin iawn o'r cyfraniad sydd ei angen ar y Cyngor i gynnal y gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd. Daw'r rhan fwyaf o'r incwm sy'n weddill, sy'n cyfateb i tua chwarter cyfanswm y gyllideb refeniw flynyddol, o'r Dreth Gyngor, sy'n codi dros £100 miliwn y flwyddyn.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis yr RSG, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Mae penderfyniadau anodd iawn yn wynebu Cyngor Sir Gâr, ac rydym bellach yn gwahodd trigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i leisio eu barn ar ystod o gynigion polisi newydd i arbed arian, a daw'r rhain o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor.
Mae’r arolwg ar-lein, sydd wedi mynd yn fyw heddiw (21 Rhagfyr 2023), yn rhoi cyfle i drigolion fynegi eu barn am, er enghraifft, y cynnydd yn y dreth gyngor, cyllideb staffio, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a darpariaeth addysgol ac ieuenctid. Caiff y rhain eu hystyried ochr yn ochr â mwy na 100 o gynigion rheolaeth manwl, fel trefniadau caffael, strwythurau staffio, a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:
Y llynedd, dywedais mai hon oedd y gyllideb ariannol waethaf yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin, yn yr un modd ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'n ddrwg gen i ddweud bod eleni'n waeth byth.
Er gwaethaf y setliad cynnydd o 3.3% gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor unwaith yn rhagor yn wynebu diffyg sylweddol yn y gyllideb gan fod chwyddiant wedi gostwng yn arafach na'r disgwyl. Ynghyd â hyn, mae setliadau cyflog a chostau gofal cymdeithasol wedi cynyddu'n helaeth.
Ni welwyd y fath bwysau ariannol erioed o'r blaen, ac rydym yn cael ein gorfodi i wneud y pethau hyn gan fod yr amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth ni.
Ymhlith yr enghreifftiau o'r pwysau ariannol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu y mae codiad cyflog cynyddol o 1.5% i athrawon ym mis Medi 2022, ac eto eleni. Cafodd hyn ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24, ond nid felly yn y flwyddyn i ddod. Bydd hyn yn costio bron i £3 miliwn yn ychwanegol i'r Cyngor, sef mwy na chwarter y cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru.
Am rai blynyddoedd bellach mae talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi bod yn destun balchder i Gyngor Sir Caerfyrddin, i gydnabod gwaith caled staff sydd ar gyflogau is, y mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol. Mae hwn yn cael ei bennu'n ganolog, ac mae codiad cyflog unol â chwyddiant o fwy na 10% i £12 yr awr yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol ychwanegu £6 miliwn at gyllideb y flwyddyn nesaf i gwrdd â’r cynnydd mewn cost.
Rydym wedi bod trwy ein cyllid gyda chrib fân, ac rydym yn benderfynol o wneud pob ymdrech i ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen i'r graddau mwyaf posib. Ond mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn wrth bennu cyllideb gyfreithlon, a cheisio gwneud arbedion ar draws yr holl wasanaethau sy'n cael eu darparu gennym ni, fel Cyngor. Mae hon yn broses boenus iawn, a digon digalon yn aml, i bawb sy'n ymwneud â hi.
Fel cynghorau lleol, rydym wedi wynebu dros ddegawd o doriadau i'n cyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn gwirionedd, yn Sir Gaerfyrddin, mae ein sefyllfa gyllid dros £100 miliwn yn waeth nag yr oedd ddegawd yn ôl.
“Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn ymgysylltu â ni ynghylch y set o gynigion rydym wedi'u cyhoeddi heddiw. Rwy'n sylweddoli'n llawn y gall y rhain fod yn amhoblogaidd. Fodd bynnag, credwn mai'r mesurau hyn sydd lleiaf niweidiol o ran arbed arian, cynyddu incwm, a chwtogi gwasanaethau. Byddwn i’n annog pawb i gwblhau'r arolwg ar-lein.
Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb bellach wedi agor, felly gall pobl ddweud eu dweud ar gynigion y gyllideb ddrafft.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion rheolaethol, gwerth hyd at tua £11 miliwn pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Sir llawn ym mis Mawrth 2024.
Gall pobl rannu eu sylwadau ar-lein neu drwy fynd i un o ganolfannau Hwb gwasanaeth cwsmeriaid y Cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 28 Ionawr 2024.