Diolch i'n holl fusnesau a chefnogwyr lleol 100% Sir Gâr.

365 diwrnod yn ôl

Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i fusnesau Sir Gaerfyrddin a fynychodd ddigwyddiadau Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr eleni yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Diolch yn arbennig i bawb a ymwelodd ag un o'n lleoliadau siopau sionc ar gyfer eich anrhegion Nadolig eleni.

Mynychodd dros 12,000 o bobl y Siopau Sionc eleni ar draws ein holl leoliadau, gan roi hwb sylweddol i fusnesau nifer o werthwyr lleol yn ystod eu hamser yn ein digwyddiadau. Eleni gwelwyd nifer o fusnesau yn cymryd rhan am y tro cyntaf erioed. Dywedodd Rhian Lloyd, o TRHinket, sy'n gwneud gemwaith:

Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i'm busnes gael mynediad i leoliad ar y stryd fawr a ffenestr siop newydd i ennill cwsmeriaid newydd. Dyma'r tro cyntaf i mi gymryd rhan mewn digwyddiad 100% Sir Gâr ac mae wedi bod yn brofiad gwych i gwrdd â busnesau eraill o Sir Gaerfyrddin yn ogystal â bod yn werth chweil o safbwynt busnes.

Yn ogystal â denu perchnogion busnesau bach nad oedd wedi cymryd rhan erioed o'r blaen, daeth nifer a oedd wedi cymryd rhan o'r blaen hefyd i'r digwyddiad eleni. Daeth Cwyr Cain, sef partneriaeth rhwng Rhian Davies-Belcher a Carys Lewis sy'n gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion a chanhwyllau persawrus i'r cartref wedi'u tywallt â llaw, yn ôl eto eleni i'r digwyddiad Dywedodd y ddwy:

Unwaith eto, hoffem ddiolch i Gyngor Sir Caerfyrddin am y cyfle i gymryd rhan yn nigwyddiadau 100% Sir Gâr. Eleni, aethom â'n cynnyrch i Rydaman ac roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i ennill cwsmeriaid newydd mewn rhan o'r Sir lle nad oeddem wedi masnachu ynddi o'r blaen. Roedd gallu arddangos ein cynnyrch yn un o'r cabanau Nadolig yn gyfle gwych i ni ac roedd yr adloniant a oedd wedi'i drefnu yn rhoi naws Nadoligaidd ychwanegol i ymwelwyr a siopwr.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r busnesau bach a fynychodd Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr. Roedd yn hyfryd gweld yr ystod eang o nwyddau a gynhyrchwyd yn Sir Gaerfyrddin a oedd yn cael eu harddangos i'r cyhoedd. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymfalchïo mewn gallu cyflwyno mentrau fel 100% Sir Gâr, sy'n hynod boblogaidd ymysg y gymuned. Diolch i bawb a fynychodd ac a gefnogodd fusnesau Sir Gaerfyrddin y Nadolig hwn.

Os ydych chi'n dal i chwilio am anrhegion Nadolig neu eisiau mwy o wybodaeth am 100% Sir Gâr, ewch i'r wefan.

Os ydych yn berchen ar fusnes bach yn Sir Gaerfyrddin ac eisiau cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r ddolen hon.

Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!