Cyngor yn darparu cymorth costau byw drwy'r gwasanaeth cofrestru
378 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ehangu ar y ffyrdd y gall trigolion gael mynediad at gymorth costau byw, gydag ystod o wybodaeth bellach ar gael i drigolion sy'n cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn y sir.
Mae ystod eang o wybodaeth sy'n hawdd ei chyrchu bellach yn rhan o'r pecyn cofrestru genedigaethau a marwolaethau a roddir fel rhan o'r gwasanaeth. Mae'r wybodaeth yn cael ei thargedu at drigolion y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn sydyn er enghraifft teulu sy'n tyfu neu golli anwyliaid.
Mae hyn yn ategu'r cymorth costau byw presennol a ddarperir ledled Sir Gaerfyrddin sydd ar gael yn bersonol yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid Hwb y sir yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, dros y ffôn neu ar-lein trwy wefan y Cyngor.
Mae Ymgynghorwyr Hwb penodol a Swyddogion Cyngor Ariannol hefyd wrth law i ddarparu pecynnau cymorth wedi'u teilwra yn dibynnu ar amgylchiadau unigolion.
Mae cymorth hefyd ar gael i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig drwy Hwb Bach y Wlad. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth wedi'i dargedu i ardaloedd gwledig gan gynnwys Cydweli, Llandeilo, Llanymddyfri, Crosshands, Cwmaman, Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn a Llanybydder.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, y Dirprwy Arweinydd:
Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i ehangu ar yr ystod o gymorth rydym yn ei gynnig i helpu trigolion gyda chostau byw, gyda llawer o bobl yn gweld newidiadau aruthrol i'w hamgylchiadau wrth ddefnyddio ein gwasanaeth cofrestru i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth.
Byddwn yn annog unrhyw rai nad ydynt yn siŵr o’r hyn y gallai fod ganddynt hawl iddo neu a allai fod angen cymorth arnynt i gysylltu â'n hymgynghorwyr cyfeillgar. Mae amrywiaeth enfawr o help a chefnogaeth ar gael i'r rhai sydd ei angen, gan gynnwys gostyngiadau yn y dreth gyngor ar gyfer person sengl os mai chi yw'r unig oedolyn yn y cartref, bathodynnau glas, atgyfeiriadau i'r banc bwyd, taliadau cymorth anabledd gofal plant a llawer mwy.
Cofiwch gysylltu os oes angen cymorth arnoch. Rydym yma i helpu.”
Am wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw ewch i wefan y Cyngor, ffoniwch 01267 234567 neu ewch i'r Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli neu Rhydaman neu Hwb Bach y Wlad.