Cyngor yn aros am Grant Cynnal Refeniw y Llywodraeth

308 diwrnod yn ôl

Unwaith yn rhagor mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn wynebu penderfyniadau anodd er mwyn mantoli'r gyllideb am 2024/25, wrth geisio pontio bwlch cyllidebol o £22 miliwn - cyn ystyried y mesurau effeithlonrwydd a'r cynnydd yn y Dreth Gyngor.

Mae pwysau enfawr ar ei wasanaethau o ganlyniad i'r lefel chwyddiant ystyfnig o uchel, ac mae’r Cyngor, fel pob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn aros i weld faint o gyllid bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Grant Cynnal Refeniw, cyn ymgynghori â thrigolion ar ei gyllideb am y flwyddyn ariannol nesaf. Mae, oddeutu, pob 1% o'r Grant Cynnal Refeniw yn cyfateb i £3 miliwn o gyllid.

Dibynna'r Cyngor Sir ar y Grant Cynnal Refeniw am tua 75% o'i incwm net tuag at redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd, sy'n cynnwys addysg, gofal cymdeithasol a chynnal a chadw priffyrdd. Mae rhan fwyaf o’r incwm sydd yn weddil yn dod o’r dreth cyngor.

Mae Cynghorwyr a Swyddogion yn cydweithio i ddatblygu cynigion i fantoli'r gyllideb am 2023/24 ond, wedi deuddeg mlynedd o leihau ei wariant ac oni bai bod cyllid sylweddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae'n rhaid i'r Cyngor unwaith eto gynnig cwtogi rhai o'i wasanaethau. 

Cyn bo hir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â'i breswylwyr i gael eu barn a'u syniadau er mwyn sicrhau'r arbedion hyn ac wedyn yn lansio ymgynghoriad swyddogol cyn unrhyw benderfyniadau terfynol.

Nid yw'r sefyllfa hon yn unigryw i Sir Gaerfyrddin, gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu diffygion mawr yn eu cyllidebau yn sgil yr hinsawdd economaidd fyd-eang. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny: "Rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru ddweud wrthon ni beth fydd setliad dros dro y Grant Cynnal Refeniw yn yr wythnos sy'n arwain at y Nadolig. Fel Cabinet, byddwn ni'n cwrdd whap wedi hynny, gyda'r bwriad o ymgynghori â'r cyhoedd yn syth wedyn. Er bo hyn ddim yn ddelfrydol, bydd gan bobol yr wythnos ar ôl Nadolig a thrwy gydol mis Ionawr i ymateb ar-lein a thrwy ddulliau eraill.
“Mae'n rhaid i fi fod yn onest gyda phobol y sir, dyw'r opsiwn 'dim toriadau' ddim yn ymarferol, fel pob cyngor arall, mae'n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, bennu cyllideb gytbwys.
 “Y llynedd, derbyniodd y Cyngor Sir gynnydd o dros 8% yn y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru. Er i hyn gael ei ystyried yn setliad da, doedd e ddim. Wedi dweud hynny, roedd yn ddigon i leihau'r heriau ariannol yn achos gwasanaethau hanfodol - gyda phwysau o dros £5.5m yn y Gwasanaethau Plant yn unig.
“Mae disgwyl i'r setliad eleni fod yn gynnydd o 3%, ond gan fod chwyddiant yn 4.7% a setliadau cyflog hyd yn oed yn uwch, mae'r Cyngor yn wynebu diffyg i'w gyllideb.
“Ymhlith yr enghreifftiau eraill o'r pwysau ariannol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu y mae codiad cyflog cynyddol o 1.5% i athrawon ym mis Medi 2022, ac eto eleni. Cafodd hyn ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24, ond nid felly fydd hi'r flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cyfateb i doriad o bron i £3 miliwn i'r Cyngor ac 1% o'r 3% disgwyliedig yn y grant gan Lywodraeth Cymru.
“Mae talu'r cyflog byw gwirioneddol yn destun balchder i Gyngor Sir Caerfyrddin, i gydnabod gwaith caled staff sydd ar gyflogau is.  Oherwydd chwyddiant, mae hyn bellach wedi codi i £12 yr awr, sy'n golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ddwy filiwn a chwarter o bunnoedd ychwanegol i'r gyllideb.”

Bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad i gael barn pobl am ei gynlluniau arfaethedig i sicrhau arbedion, cyn cytuno ar ei gyllideb ar gyfer 2024/25. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.