Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2022/23

374 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad yn 2022/23, sy'n sôn am y cynnydd y mae'r Awdurdod Lleol yn ei wneud wrth gyflawni Strategaeth Gorfforaethol 2022/27 -Datblygu Sir Gaerfyrddin Gyda'n Gilydd. Un Cyngor, Un Weledigaeth, Un Llais.

Cliciwch yma i ddarllen yr Adroddiad Blynyddol yn llawn.

Drwy gydol 2022/23 bu'r Cyngor yn olrhain ei gynnydd yn erbyn yr Amcanion Llesiant a'r blaenoriaethau a bennwyd ganddo i sicrhau ei fod yn cyflawni ei addewidion. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn dweud beth sydd wedi'i gyflawni ac yn nodi'r hyn sydd wedi bod yn heriol.

O dan Amcan Llesiant 1: Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda;) - mae'r Cyngor Sir yn blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal gan fod yr hyn sy'n digwydd yn y blynyddoedd cynnar hyn yn cael effeithiau gydol oes, o ordewdra ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd.

Gwnaeth gwiriad sicrwydd diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru ar ein gwasanaethau cymdeithasol i blant ganfyddiadau cadarnhaol iawn ar ddull ataliol y Cyngor, ac roedd yn cydnabod bod nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol yn parhau i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru.

 

Mewn addysg, at ei gilydd, mae disgyblion yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, ac yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Daeth arolwg ymgynghori gyda 2,195 o ymatebwyr i gytundeb cyffredinol bod ysgolion yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc. Mewn adroddiad diweddar gan Estyn, roedd canfyddiadau Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn hynod gadarnhaol.

 

O dan Amcan Llesiant 2: Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda) – mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn tynnu gwasanaethau at ei gilydd i fynd i'r afael â thlodi a blaenoriaethu tai a gofal cymdeithasol.

 

Yn anffodus, mae 34.5% (28,730) o aelwydydd yn byw mewn tlodi yn y sir. Mae hyn yn ostyngiad bach oddi ar y llynedd; fodd bynnag, mae Sir Gaerfyrddin yn dal i arddangos yr 8fed lefel uchaf o dlodi o blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae'r lefelau tlodi yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru o 1.1%.

 

Mae gwaith trawsadrannol i fynd i'r afael â'r argyfwng Costau Byw wedi datblygu dull cryfach a mwy integredig o fewn y Cyngor ac mae wedi cydgrynhoi a nodi'n well yr hyn yr ydym yn ei wneud, y gallwn ei wneud ac sydd angen i ni ei wneud. 

 

Mae'r Cyngor wedi darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor arbenigol ar gyfer chostau byw a materion eraill drwy ei ganolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin, a thrwy ei Ganolfan Gyswllt dros y ffôn ac ar-lein.

 

Cafodd mannau cynnes hefyd eu sefydlu yn llyfrgelloedd Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman y llynedd, gydag ychydig dros 8,000 wedi mynd iddynt erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

 

Tai fforddiadwy o ansawdd da yw sylfaen cymunedau iach a chynaliadwy. Yn 2022/23 darparodd Cyngor Sir Caerfyrddin 323 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y Sir, sy'n gyfanswm o 1760 o dai ers 2016.

 

Ym maes Gofal Cymdeithasol, fel yn achos bron pob awdurdod lleol, cyrhaeddodd yr anallu i recriwtio digon o staff Gofal Cartref, Gofal Preswyl a Gwaith Cymdeithasol bwynt tyngedfennol ddiwedd 2022, a arweiniodd at restrau aros hir ar gyfer asesu a gofal. 

 

Mae mentrau'r gweithlu sydd yn cynnwys yr Academi Gofal, mwy o nawdd i ddilyn cyrsiau gradd a gwneud gwelliannau i rai telerau ac amodau wedi gwella a sefydlogi'r sefyllfa ym mhob maes. 

 

Mae datblygu adnoddau Byw â Chymorth ar gyfer oedolion â materion iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn trawsnewid bywydau wrth i'r rhaglen fynd rhagddi; tra bod y gwasanaeth Gartref yn Gyntaf yn prysur leihau nifer y bobl sydd angen gofal hirdymor. 

 

O fewn Amcan Llesiant 3, mae'r Cyngor Sir hefyd am alluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus).

 

Yn economaidd, mae yna arwyddion cadarnhaol o'r economi leol gan fod y Cyngor wedi sicrhau ac wrthi'n cyflawni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd werth £38.68m yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, mae cynlluniau cyfalaf adfywio sylweddol wedi'u cyflawni, yn fwyaf nodedig y gwaith o ailddatblygu Neuadd y Farchnad, Llandeilo a Phrosiect Denu Twristiaid Pentywyn. 

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu 1475 o swyddi eleni, wedi diogelu 215 o swyddi ac wedi cefnogi 1,237 o fusnesau.

 

Mae gennym ymrwymiad sefydliadol cryf i leihau carbon a ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, cyhoeddi cynllun gweithredu ac adrodd yn flynyddol yn erbyn cynnydd a wnaed o fewn y cynllun. Ers 2016/17 i 2021/22 rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon bron i draean.

 

Mae hyn yn gynnydd cryf yn y llwybr tuag at gyflawni ein hymrwymiad i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Rydym yn mynd ati i weithio gyda'r llywodraeth genedlaethol, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

 

Yn 2022/23 gwnaethom leihau ein defnydd o ynni dros 5% a lleihau ein hôl troed carbon 6.29%, gan arbed 1,140 tCOe.

 

Gan ymateb i ffigurau siomedig Cyfrifiad 2021, a nododd ostyngiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, i lawr i 39.9% o'r boblogaeth, sy'n cyfateb i 72,838 o siaradwyr Cymraeg - mae Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg yn datblygu dulliau cydweithredu rhagorol ac wedi cydweithio i gyd-gynhyrchu Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg newydd. Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu ei ethos a'i ddiwylliant o ran y defnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad a bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

 

Er gwaethaf cynnydd bach mewn cyfraddau troseddu, mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel yn y DU. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau eraill yn parhau i fod yn gryf ac mae'n parhau i ddatblygu wrth i faterion newydd godi. 

 

Yn y Gwasanaethau Hamdden, mae presenoldeb wedi gwella drwy gydol y flwyddyn wrth i fwy o bobl gymryd rhan mewn cyfleoedd gweithgarwch corfforol ar draws y sir, gyda'r ffigurau bron yn ôl i'r lefelau fel yr oeddent cyn Covid.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu o dŷ i dŷ ar gyfer 91,000 o aelwydydd gyda dros 8.5 miliwn o ryngweithiadau bob blwyddyn. Yn ystod y flwyddyn hon rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'n gwasanaethau gwastraff, gan symud tuag at gasgliadau bwyd a deunydd ailgylchu sych wythnosol, lleihau amlder ein casgliadau gwastraff gweddilliol a chyflwyno casgliadau gwydr ac ailgylchu cewynnau newydd ar wahân o dŷ i dŷ. Mae unrhyw newid yn y gwasanaethau gwastraff a ddarperir yn anodd ac yn dod â'i heriau ei hun; fodd bynnag, mae llwyddiant strategol y newid gwasanaeth wedi arwain at welliant sylweddol yn ein perfformiad ailgylchu, ac rydym wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru gyda pherfformiad o 65.25%.

 

Gyda'r bwriad o foderneiddio a datblygu ymhellach fel awdurdod lleol cydnerth ac effeithlon, rydym wedi datblygu Strategaeth Drawsnewid sy'n amlinellu 8 blaenoriaeth thematig a gaiff eu hadolygu. Mae'r blaenoriaethau thematig yn edrych ar effeithlonrwydd a gwerth am arian, incwm a masnacheiddio, y gweithle, y gweithlu, dylunio a gwella gwasanaethau, cwsmeriaid a thrawsnewid digidol, datgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac ysgolion. Yn ogystal â'r blaenoriaethau thematig a'r blaenoriaethau gwasanaeth, mae'r adroddiad hefyd yn archwilio amrywiaeth o alluogwyr busnes craidd sy'n hanfodol i alluogi busnesau i symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth sydd ar gael o ystod o ffynonellau sy'n cynnwys data perfformiad, canlyniadau bodlonrwydd cwsmeriaid a chanfyddiadau rheoleiddio i lunio barn ar sut y mae pethau'n mynd. 
“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o ffurfio'r Adroddiad Blynyddol trylwyr hwn, o Swyddogion a luniodd yr Adroddiad i'n trigolion a roddodd o'u hamser i ymateb i ymgynghoriadau. 
“Mae'r ymatebion i'r arolwg bodlonrwydd dinasyddion yn bwysig er mwyn sicrhau nad 'marcio ein papurau ein hunain' yn unig yr ydym ond ein bod yn chwilio am asesiad gonest o gynnydd. Fodd bynnag, rwyf yn falch o ddweud bod y rhan fwyaf o'r trigolion yn cytuno bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o ansawdd da yn gyffredinol. 
“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i gyflawni ein Strategaeth Gorfforaethol mewn ffordd gynaliadwy gan sicrhau, wrth ddiwallu anghenion heddiw, nad ydym mewn unrhyw ffordd yn ei gwneud hi'n anoddach i genedlaethau'r dyfodol ddiwallu eu hanghenion hwy.”