Bwydlen Ein Bro
374 diwrnod yn ôl
Mae ysgolion cynradd ledled Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu pryd o fwyd a ysbrydolwyd gan eu hardal leol, drwy ddefnyddio cynnyrch o’r gerddi yn eu hysgolion neu gyflenwyr cynhwysion lleol i greu eu pryd terfynol.
Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth eleni, Ysgol Bro Banw o Rydaman, ac Ysgol Llangennech yn Llanelli. Gwahoddwyd yr ysgolion i Ddanteithion Wrights (Wright’s Food Emporium) yn Llanarthne a rhoddwyd cyfle iddynt baratoi a gweini eu bwydlen a ysbrydolwyd gan gynnyrch lleol ar gyfer gwesteion.
Mae'r gystadleuaeth wedi cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn cael ei chefnogi gan Cook 24, rhaglen porth i sgiliau bwyd sy'n cael ei harwain gan Goleg Sir Gâr ond sy'n cael ei darparu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, am ragor o wybodaeth ar Cook 24, ewch i'r wefan.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae'n bwysig ein bod yn dysgu plant ysgol am bwysigrwydd defnyddio cynhwysion lleol yn eu prydau bwyd. Diolch i'r partneriaid a Danteithion Wrights am gefnogi Bwydlen Ein Bro. Da iawn i'r holl blant a fu'n cymryd rhan.
Mae'r gystadleuaeth yn cyd-fynd â pholisïau amgylcheddol ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin, am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ewch i'n gwefan.
Daw'r gystadleuaeth ar ddiwrnod olaf COP28, lle mae arweinwyr y byd wedi ymgynnull yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig i drafod newid yn yr hinsawdd. Mae mwy na 130 o arweinwyr y byd wedi cymeradwyo ystod o systemau bwyd a mentrau amaethyddol a fydd yn rhan ganolog o'u huchelgeisiau o ran yr hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch COP28, ewch i'w gwefan.