Beth a sut alla i ei ailgylchu y Nadolig hwn?

264 diwrnod yn ôl

Ailgylchu gwastraff y cartref

Prawf Sgrwnshio! – os yw papur lapio neu blastig yn aros wedi'i sgrwnshio, yna gellir ei roi mewn bag glas i'w ailgylchu.  Os nad yw'n dal ei siâp ar ôl ei sgrwnshio, yna ni ellir ei ailgylchu ac felly mae'n rhaid ei roi mewn bag du.

Bocsys a deunydd pecynnu - dylid fflatio bocsys cardbord mawr a'u rhoi mewn bagiau glas i'w casglu.  Gall unrhyw bapur pacio brown neu ffilm blastig fynd yn eich bag glas, ond peidiwch â rhoi polystyren i mewn.  Os oes gennych lawer iawn o bolystyren, ewch ag ef i ganolfan ailgylchu, neu gallwch roi ychydig bach yn eich bag du.

Eto – rhoi, atgyweirio, ailddefnyddio

Os ydych wedi cael dyfeisiau newydd dros y Nadolig, gallwch fynd â'r hen rai i un o'n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (HWRC) fel y gellir eu hatgyweirio a'u hailddefnyddio o dan ein cynllun Eto. Ar gyfer eitemau swmpus megis oergelloedd/rhewgelloedd, carpedi a wardrobau, mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a byddwn yn casglu hyd at dair eitem am £25 o'ch man casglu sbwriel ac ailgylchu arferol.

Casglu gwydr – Mae gan y rhan fwyaf o aelwydydd focs du ar gyfer ailgylchu gwydr, sy'n cael ei gasglu bob 3 wythnos ar yr un diwrnod â'ch bagiau du. Mae dros 120 o bwyntiau ailgylchu poteli ar draws y sir hefyd. 

Banciau tecstiliau – Mae banciau dillad ac esgidiau yn ogystal â banciau nwyddau cyfryngau ar gael ledled y sir a gellir eu defnyddio i ailgylchu dillad wrth glirio'r tŷ neu roi i elusen.

Os oes gennych goeden Nadolig go iawn y mae angen ei gwaredu, ewch ag ef i un o'n canolfannau, ac fe gewch chi fag am ddim o gompost hud Merlin.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, hoffwn i ddiolch i'n trigolion am ymdrechu i ailgylchu cymaint o'u gwastraff domestig â phosib eleni.
Mae hyn o fudd i'n hamgylchedd lleol a chenedlaethau'r dyfodol gan fod lleihau ac ailgylchu'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu yn ein cartrefi yn fwy cynaliadwy. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi oll.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio eich diwrnod casglu, ewch i'n tudalen ailgylchu.