Ailagor llawr gwaelod Amgueddfa Parc Howard i ymwelwyr ar ôl gwaith adnewyddu
378 diwrnod yn ôl
Mae Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli wedi ailagor i'r cyhoedd ac mae'n cynnwys arddangosfeydd newydd.
Caewyd yr adeilad nodedig yn Llanelli yn 2021 yn rhan o raglen uchelgeisiol i'w adnewyddu a'i foderneiddio, gan gynnwys uwchraddio systemau a gwneud gwaith adnewyddu mewnol.
Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Parc Howard ac mae ar agor i ymwelwyr bob dydd Iau tan ddydd Sul rhwng 10.30am a 3.30pm.
Mae Amgueddfa Parc Howard yn cael ei hailagor mewn dau gam. Agorwyd yr orielau ar y llawr gwaelod ar 2 Rhagfyr, ac mae disgwyl i weddill yr Amgueddfa ailagor yn ystod Pasg 2024. Mae Parc Howard yn rhan o deulu CofGâr, sef Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae mynedfa newydd i ymwelwyr yn gwella'r mynediad i'r plasty hanesyddol, a roddwyd gan ei berchnogion fel amgueddfa gyhoeddus yn 1912 i dref Llanelli. Daw ymwelwyr ar draws siop anrhegion newydd sbon sy'n cynnig diodydd poeth, byrbrydau a hufen iâ. Hefyd mae digonedd o lyfrau, teganau a rhoddion bach ar gyfer hosanau Nadolig i'w cael yno.
Mae llwybr i ymwelwyr newydd drwy'r Amgueddfa yn archwilio penodau o hanes Llanelli. Mae arddangosfa Straeon Crochenwaith Llanelly yn benllanw prosiect ymgysylltu â'r cyhoedd dros ddwy flynedd a ariennir gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn. Mae'r arddangosfa, sy'n addas i'r teulu cyfan, yn rhoi llwyfan i gasgliad helaeth yr Amgueddfa o grochenwaith, a hynny mewn ffordd ddiddorol trwy rannu straeon am y crochenwaith a'r gweithwyr.
Ers 1912, mae oriel luniau bob amser wedi bod ym Mharc Howard ac mae'r arddangosfa newydd yn ail-greu'r arddull draddodiadol o'r cyfnod hwnnw i arddangos paentiadau o gasgliad celf y Sir.
Erbyn y Pasg, bydd yr Amgueddfa yn cynnwys arddangosfeydd newydd ynghylch hanes Parc Howard a Stori Llanelli, oriel ryngweithiol hwyliog a rhaglen arbennig o arddangosfeydd. Hefyd mae cynlluniau ar y gweill i gael man eistedd ar y patio o flaen Amgueddfa Parc Howard er mwyn i ymwelwyr ymlacio gyda diod a byrbryd wrth fwynhau golygfeydd o'r parc.
Mae gwaith adfer Parc Howard wedi'i ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae'r arddangosfeydd newydd wedi'u cefnogi gan gyfraniad hael gan Gyngor Tref Llanelli. Mae Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard wedi rhoi eitemau newydd i'r amgueddfa er mwyn cyfoethogi'r arddangosfeydd newydd.
Mae CofGâr a Chyngor Sir Caerfyrddin yn ddiolchgar i'r unigolion a'r partneriaid cymunedol niferus sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol at y prosiect hwn ac sy'n parhau i roi o'u hamser a chefnogi'r bennod newydd gyffrous hon yn stori Amgueddfa Parc Howard.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Rydym yn falch iawn o groesawu ymwelwyr yn ôl i Amgueddfa Parc Howard, un o'r trysorau poblogaidd yn nhreftadaeth ddiwylliannol Llanelli.
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi gwneud y buddsoddiad uchelgeisiol hwn yn nhreftadaeth Llanelli ac rydym yn ddiolchgar am gymorth hael Cyngor Tref Llanelli, yn ogystal â Chyfeillion Amgueddfa Parc Howard a'n holl bartneriaid cymunedol. Rydym yn edrych ymlaen at yr ail gam flwyddyn nesaf o ran ailagor, pan fydd ymwelwyr yn gallu mwynhau profiadau hyd yn oed yn fwy cyffrous a rhyngweithiol yn yr orielau ar y llawr cyntaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Nicholas Pearce, Maer Tref Llanelli: “Mae Cyngor Tref Llanelli yn falch iawn o weld gwaith ailddatblygu Amgueddfa Parc Howard bron wedi'i gwblhau, a bydd y cyfleuster hwn wedi'i ddiweddaru, a ariennir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli, yn gaffaeliad mawr i'r gymuned ac yn rhoi cyfle gwych i'r trigolion ddeall hanes diddorol Llanelli yn well”
Oriau agor Amgueddfa Parc Howard:
2 Rhagfyr 2023 tan 31 Mawrth 2024, ar agor rhwng dydd Iau a dydd Sul, 10:30am – 3:30pm.
Ewch i wefan CofGâr i weld yr holl oriau agor ac i gael rhagor o wybodaeth neu dilynwch CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.