A485 Brynseison – Alltwalis yn ailagor

267 diwrnod yn ôl

Heddiw, 15 Rhagfyr, mae ffordd yr A485 Brynseison – Pencader wedi ailagor yn llawn i gerbydau, yn dilyn gwaith brys i osod cwlfer newydd a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae rhan o ffordd yr A485, ger Pencader, wedi bod ar gau ers 7 Tachwedd 2023, yn dilyn cwlfer mawr a oedd wedi cwympo, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio.

Roedd angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin osod cwlfer newydd yn lle'r un blaenorol a hynny o dan y ffordd.

Gydag ailagor y ffordd, bydd y signalau traffig dros dro ym Mhencader ar y B4459 hefyd yn cael eu symud.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Rhaid i mi ganmol Adrannau Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir, staff gweithredol a chontractwyr y fframwaith am y gwaith brys i osod cwlfer newydd a hynny mewn cyfnod byr o amser, diolch.
“Hoffwn ddiolch hefyd i drigolion Pencader a'r ardal gyfagos, yn ogystal â modurwyr am eu hamynedd dros y mis diwethaf wrth i ni atgyweirio'r cwlfer a sicrhau bod y darn hwn o'r ffordd yn ddiogel eto.”