Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Liniaru Llifogydd ar gyfer Pen y Fan, Llanelli

299 diwrnod yn ôl

Mae trigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynlluniau posibl i atal llifogydd ym Mhen y Fan, Llanelli

Mae prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ymchwilio i'r perygl o lifogydd nawr ac yn y dyfodol ym Mhen y Fan, Llanelli. Mae'r prosiect hefyd yn asesu opsiynau lliniaru llifogydd posibl i leihau'r perygl o lifogydd i drigolion yr ardal ac ymchwilio i ddulliau cyllido yn y dyfodol ar gyfer y cynllun.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trefnu digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gyfarfod a siarad â chynrychiolwyr o'r Cyngor a'r Tîm Prosiect

Bydd y digwyddiad ymgynghori yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi New Dock Stars ddydd Mawrth, 14 Tachwedd, rhwng 2pm a 7pm. Bydd swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a WSP Consultants yn bresennol ac ar gael drwy gydol y digwyddiad i ateb unrhyw ymholiadau gan y cyhoedd.

Mae tîm y prosiect am ddeall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar gymunedau, sut y mae'r llifogydd yn digwydd ym Mhen y Fan, ac asesu gwahanol fesurau atal llifogydd posibl a fydd yn lleihau'r effaith yn ystod tywydd cynyddol stormus yn y dyfodol.

Bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a'u hadborth yn bersonol i'r Tîm Prosiect ar y diwrnod. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gyflwyno sylwadau ac adborth trwy e-bost ar ôl y digwyddiad.

Bydd adborth o'r digwyddiad yn bwydo i mewn i'r cam nesaf o'r gwaith ac yn ffurfio rhan o unrhyw benderfyniadau y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddylunio a gweithredu unrhyw gynllun i leihau'r perygl o lifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae mynd i'r afael â llifogydd lleol yn golygu cael mewnbwn y gymuned leol a byddwn yn annog cynifer o drigolion â phosibl i ddweud eu dweud am y datblygiad o’r opsiynau.”