Ymchwiliad ynghylch Gorchymyn Prynu Gorfodol Llwybr Dyffryn Tywi -

289 diwrnod yn ôl

Yn dilyn gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (Llwybr Cyd-ddefnyddio Ffair-fach i Felin-wen) Cyngor Sir Caerfyrddin 2023 yn unol ag adran 226(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, bydd ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â'r cynllun yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 28 Tachwedd yn Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, yn dechrau am 10.00am ac amcangyfrifir y bydd yn para am dri diwrnod.

 

Pwrpas yr ymchwiliad yw clywed sylwadau gan unigolion sydd â buddiant yn y tir sydd wedi'i gynnwys yn y Gorchymyn Prynu Gorfodol ac, yn ôl disgresiwn yr arolygydd, clywed sylwadau gan unrhyw bersonau eraill a allai fod eisiau ymddangos a chael eu clywed.

 

Os caiff ei gadarnhau, bydd y Gorchymyn yn awdurdodi Cyngor Sir Caerfyrddin i brynu tir yn orfodol a chaffael  hawliau newydd dros dir a ddisgrifir yn y Gorchymyn ac a nodir ar gynlluniau'r Gorchymyn. Bwriad y Cyngor yw datblygu ac adeiladu llwybr sy'n addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a bydd yn ymestyn i gyfeiriad y gorllewin o Ffair-fach, Llandeilo i Felin Wen am bellter o tua 19.22 cilometr.

 

Ynglŷn â phrosiect Llwybr Dyffryn Tywi.

Mae'r prosiect cyffrous hwn eisoes ar y gweill wrth i'r hen drac rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, sy'n rhedeg trwy brydferthwch Dyffryn Tywi, gael ei ddefnyddio eto fel atyniad hamdden o bwys ac atyniad i ymwelwyr a fydd hefyd yn darparu cyswllt trafnidiaeth pwysig i gymunedau gwledig.

 

Gan ddarparu llwybr di-draffig 16 milltir o hyd drwy un o ardaloedd harddaf Cymru, bydd yn dilyn trywydd afon Tywi bron, drwy olygfeydd godidog sy'n cynnwys cestyll, parciau gwledig ac ystadau hanesyddol yn ogystal ag atyniadau gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne.

 

Gyda rhai rhannau o'r llwybr eisoes wedi'u cwblhau, gan gynnwys cyswllt rhwng Abergwili a Felin-wen, nod Llwybr Dyffryn Tywi yw denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant.

 

Mae cyllid ar gyfer y cam diweddaraf ym mhrosiect Llwybr Dyffryn Tywi wedi'i sicrhau o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a chyllid cyfalaf Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda'r rhannau o'r llwybr sydd eisoes wedi'u hagor wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: "Mae'r ymchwiliad hwn yn gam pwysig yn uchelgais y Cyngor i ddarparu llwybr i feicwyr a cherddwyr o Gaerfyrddin i Landeilo, a fydd yn hwb enfawr i drefi a phentrefi lleol, a thwristiaeth ledled y sir."

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Llwybr Dyffryn Tywi, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.