Y Cyngor am wella ansawdd aer o amgylch ysgolion yn Sir Gaerfyrddin

288 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymarfer monitro ansawdd aer i helpu i reoli a gwella ansawdd aer.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ardaloedd o amgylch pedair ysgol sy’n agos neu’n rhan o dair ardal Rheoli Ansawdd Aer sef Llanelli, Llandeilo a Chaerfyrddin, a bydd y prosiect yn galluogi'r Cyngor i asesu'r ansawdd aer o amgylch Ysgol Llandeilo, Ysgol Teilo Sant Llandeilo, Ysgol Ffwrnes Llanelli ac Ysgol Parc Waun Dew Caerfyrddin.

Mae'r prosiect chwe mis yn cynnwys defnyddio offer monitro sy’n darparu data amser real ar lygryddion fel nitrogen deuocsid a gronynnau. Bydd yr offer monitro hefyd yn helpu i bennu unrhyw welliannau a wnaed dros gyfnod o amser.

Cafwyd yr offer monitro ansawdd aer yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid gan y Gronfa Cymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol 2023 – 2024.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

 

Mae'r ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin yn dda ar y cyfan ac mae ein data monitro'n dangos ein bod yn bodloni holl amcanion ansawdd aer cyfredol y DU ar gyfer deunydd gronynnol. Fodd bynnag, fel y gwelir mewn llawer o drefi a dinasoedd prysur, mae rhai ardaloedd yn agos at ffyrdd prysur lle mae lefelau nitrogen deuocsid weithiau'n cynyddu ac mae'n bwysig sicrhau ein bod i gyd yn gwneud yr hyn a allwn gyda'r heriau sy'n ein hwynebu o ran ansawdd aer a'r effaith y gall ei chael ar iechyd drigolion.

Bydd y prosiect hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ansawdd aer gyda thrigolion iau, yn ogystal ag annog ysgolion, rhieni a'r gymuned ehangach i ystyried pa ymddygiadau all gyfrannu tuag at ansawdd aer da o amgylch ysgolion.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin, anfonwch e-bost

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer