Y Cabinet yn cytuno i werthu Parc Dewi Sant

284 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau ac wedi derbyn cynnig i werthu Campws Parc Dewi Sant, ar gyrion tref Caerfyrddin.

 

Trwy werthu’r 22 adeilad ar y safle 38 erw mi fydd y Cyngor yn arbed dros £200,000 y flwyddyn ar gost cynnal a chadw. Hefyd bydd gwaredu'r safle yn lleihau’n sylweddol ôl troed carbon y Cyngor.

 

Mae'r penderfyniad i werthu'r safle yn dilyn adroddiad Strategaeth Derbyniadau Cyfalaf ar gyfer gwerthu asedau'r Cyngor y datganwyd nad oes eu hangen mwyach. Roedd yr Adroddiad, a gyflwynwyd i Gabinet y Cyngor ym mis Tachwedd 2022, yn nodi bod llai o alw am swyddfeydd oherwydd ffyrdd newydd o weithio.

 

Bydd staff sy'n gweithio ym Mharc Dewi Sant ar hyn o bryd yn cael eu symud i swyddfeydd eraill sy'n eiddo i'r Cyngor. Fodd bynnag, yn dilyn y gwerthiant, bydd dal angen yn y tymor byr i nifer fach o staff weithio o hyd ym Mharc Dewi Sant. Bydd y Cyngor yn rhan o gytundeb perthnasol at y diben hwn, fel rhan o'r gwerthiant.

 

Mae'r Cyngor wedi derbyn cynnig (yn amodol ar gontract), ar gyfer gwerthu'r safle ar brydles. Bydd hyn yn galluogi'r Awdurdod Lleol fel Landlord i gael mewnbwn o ran unrhyw ddefnydd o'r adeiladau yn y dyfodol, am o leiaf 25 mlynedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “O ran ein bwriad i werthu Parc Dewi Sant, rwy' am sicrhau holl staff y Cyngor sy'n gweithio ar y safle y bydd lle iddyn nhw mewn swyddfeydd priodol sy'n eiddo'r Cyngor mewn mannau eraill yn y sir, ac mai proses o adleoli graddol fydd hon.

 

“Ar ôl cynnal gwiriadau diwydrwydd ar gyfer y cynigwyr, rydym ni wedi penderfynu derbyn cynnig ar gyfer Parc Dewi Sant, ac, yn amodol ar gontract, byddwn yn gallu dweud mwy maes o law.”