Tîm Gofal Gartref yn Gyntaf yn ennill gwobr gofal genedlaethol

295 diwrnod yn ôl

Mae tîm Gartref yn Gyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ennill rownd Cymru gwobrau mawreddog 'Great British Care Awards' eleni.

Derbyniodd tîm gofal integredig arloesol Gartref yn Gyntaf y brif wobr yng nghategori 'cydgynhyrchu' y gwobrau sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn gwaith partneriaeth i lunio a dylunio gwasanaeth gofal a chymorth integredig.

Mae'r wobr yn cydnabod y cydweithio rhwng tîm gofal cartref Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lle mae'r ddau sefydliad yn gwireddu eu gweledigaeth o weithio mewn partneriaeth i wella'r canlyniadau i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys sefydlu proffil rôl y cytunwyd arno ar gyfer y ddau sefydliad a rhaglen recriwtio lwyddiannus ar y cyd.

Mae Gartref yn Gyntaf yn canolbwyntio ar osgoi derbyn i'r ysbyty yn ogystal â chefnogi defnyddwyr gwasanaeth pan fyddant yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i ganiatáu i bobl wella gartref cyn cynnal asesiad o anghenion hirdymor.

Mae'r tîm yn rhan o'r dull Amlddisgyblaeth Gofal Canolraddol a ddatblygwyd yn Sir Gaerfyrddin sy'n cynnwys meddygon teulu, uwch-barafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal integredig Gartref yn Gyntaf, ymarferwyr nyrsio a therapyddion. Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr gwasanaeth yn treulio llai o amser yn yr ysbyty a mwy o amser yn gwella gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rwy'n falch iawn bod tîm gwych Gartref yn Gyntaf a'i aelodau ymroddedig wedi derbyn y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu drwy ennill y wobr fawreddog hon.
Mae Gartref yn Gyntaf yn dîm amlsgiliau sy'n darparu gwasanaeth mawr ei angen ledled Sir Gaerfyrddin drwy sicrhau bod y math cywir o gymorth yn cael ei ddarparu i'r rhai a allai fod wedi profi argyfwng ac sydd angen gofal tymor byr.
Drwy ganolbwyntio ar gryfderau pobl, mae'r tîm yn helpu defnyddwyr gwasanaeth i gynnal eu hannibyniaeth. O ganlyniad mae llai o bobl wedi mynd i'r ysbyty ac mae'n golygu bod modd i fwy o bobl wella yng nghysur eu cartrefi eu hunain.”

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Mae Gartref yn Gyntaf yn fuddiol iawn i'n cleifion a'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol oherwydd mae treulio llai o amser yn yr ysbyty a mwy o amser yn gwella gartref wrth wraidd y fenter hon. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin i wella'r gofal iechyd rydym yn ei gynnig i'n cymunedau lleol yn y dyfodol.”