Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes Sir Gaerfyrddin 2023 – archebwch nawr!

299 diwrnod yn ôl

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir ag uchelgeisiau mawr. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi ychydig o dan 6,000 o fusnesau, wedi creu 2902 o swyddi ac wedi diogelu 950 o swyddi hyd yn hyn.

Yn awyddus i barhau â’r cymorth hwn i fusnesau lleol a chan gydnabod bod y sector twristiaeth werth dros £1/2biliwn y flwyddyn i economi Sir Gaerfyrddin, gan ddechrau ar Dachwedd 30, bydd swyddogion o’r Cyngor Sir yn cychwyn ar Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes y sir.

Bydd ein swyddogion arbenigol yn teithio ledled Sir Gaerfyrddin i gwrdd â busnesau a grwpiau cymunedol i gynnig cyngor busnes a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes, o drwyddedu, cynllunio, opsiynau cyllido, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau yn ogystal â chymorth marchnata.

Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, ond rhaid archebu ymlaen llaw. Mae slotiau y gellir eu harchebu bellach ar gael ar gyfer y digwyddiadau sioe deithiol ac maent yn debygol o fod yn hynod boblogaidd, felly archebwch eich lle heddiw drwy e-bostio twristiaeth@sirgar.gov.uk Mae sesiynau ar gael fel apwyntiadau un i un neu mewn grwpiau.

Bydd y gyfres gyntaf o sioeau teithiol twristiaeth a busnes yn cael eu cynnal ar 30 Tachwedd yn Ystafell y Crochan yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, a bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal ar 5 Rhagfyr yn Neuadd Cawdor, Castellnewydd Emlyn. Bydd y digwyddiadau yn dechrau am 10:00 ac yn gorffen am 4pm.

Drwy gydol y sesiwn bydd swyddogion arbenigol y Cyngor yn cynnig cyngor busnes am ddim sy'n berthnasol i'ch busnes. Bydd y Tîm Twristiaeth wrth law i archwilio sut y gallwch weithio gyda'r Cyngor ar ymgyrchoedd, cyfleoedd ffilmio, digwyddiadau busnes, a chyngor ac arweiniad mewn perthynas â rheoliadau a chyllid statudol.

Gall mynychwyr hefyd ddysgu am y cynlluniau diweddaraf ar gyfer themâu marchnata 2023-24 Cyngor Sir Caerfyrddin a chael blas ar yr ymgyrchoedd a'r cynnwys creadigol sydd wedi'u trefnu yn ein calendr ar gyfer y flwyddyn.  Byddwn hefyd yn rhannu newyddion am sut rydym yn symud tuag at integreiddio digidol gwell o'n gwefannau twristiaeth a'n gwefannau sy'n wynebu busnesau. Dewch i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan!

Gallwn gynnig awgrymiadau ar y math o wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfryngau ar gyfer erthyglau teithio, cyllid sydd ar gael yn eich ardal chi, a rhannu ein profiad o weithio gyda Chroeso Cymru a Visit Britain.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin bortffolio eang o grantiau a benthyciadau ar gael i ddatblygwyr a pherchnogion busnes, dewch i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi a'ch busnes. Mae cyfleoedd ar gael drwy'r gronfa Ffyniant Gyffredin, y Gronfa Dechrau Busnes a'r Gronfa Tyfu Busnes. Bydd cymorth ac arweiniad hefyd ar gyllid sydd ar gael i fusnesau gwledig.

Os ydych yn cynllunio digwyddiad, yn rhedeg sefydliad trwyddedig neu'n bwriadu casglu rhoddion elusennol ar y stryd, bydd swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i helpu.

Bydd cyngor yn cael ei roi gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth gwastraff newydd. Yn ogystal â gwybodaeth am fentrau LEQ fel y byrddau sesiynau codi sbwriel 2 funud.

Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gyfer mentrau cymunedol, gwirfoddol, elusennol a chymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd swyddogion hefyd yn gallu rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin o raglen Arfor. Darganfyddwch sut y gellir cefnogi pobl ifanc ledled y sir i ddatblygu syniadau busnes newydd, cael gwaith a datblygu gweithgareddau cymdeithasol yn eu hardal sy'n cefnogi'r Gymraeg.

Bydd y sioeau teithiol Twristiaeth a Busnes yn cynnig ystod eang o arbenigedd perthnasol i'ch helpu i redeg eich busnes - p'un a ydy eich busnes wedi ei hen sefydlu ac rydych yn chwilio am gyfleoedd newydd neu a ydych yn ystyried sefydlu yn y diwydiant ac angen awgrymiadau i'ch helpu ar eich ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Yn ystod y Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes, bydd ein swyddogion yn dod ag arbenigedd eang at ei gilydd, o dan yr un to - gan roi cyfle i fusnesau Sir Gaerfyrddin gael gafael ar gyngor arbenigol ar gyllid, busnes, grantiau, rheoli gwastraff, trwyddedu a chymorth digwyddiadau, felly archebwch nawr i osgoi colli allan.”

Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, ond rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu eich lle, e-bostiwch Twristiaeth@sirgar.gov.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw ac enw'r busnes
  • Pa ymgynghorwyr yr hoffech drefnu apwyntiad gyda nhw (gallwch ddewis nifer yr ymgynghorwyr, gweler y rhestr lawn isod)
  • Faint o'r gloch y gallwch gyrraedd, a pha amser yw'r diweddaraf y gallech ei adael.

Wedyn byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau pob un o'r amseroedd ar eich archeb.