Newidiadau i lwybrau bysiau ysgol C11, C12 a C13

302 diwrnod yn ôl

Bydd y newidiadau canlynol i lwybrau bysiau C11, C12 a C13 o Talog a Phen-y-bont ar waith o ddydd Llun 6 Tachwedd oherwydd bod ffordd ar gau yn dilyn argyfwng.

Bydd C11 yn cychwyn o Talog (rheiliau gwyrdd) am 8am ac yn mynd trwy Abernant, Merthyr, Trawsmawr, Heol Henfwlch, Plough & Harrow, a Threfechan i Deras Russell, gan godi disgyblion ar gyfer y ddwy ysgol. Sylwer, rhwng Talog a'r Plough & Harrow bydd y bws yn codi disgyblion yr ochr arall i'r ffordd i'r hyn sy'n digwydd fel arfer.

Bydd C12 yn cychwyn o Benybont ac yn teithio fel y gwna fel arfer (yr un amserau, yr un llwybr) cyn belled â thro Trawsmawr ym Mwlchnewydd, gan godi disgyblion ar gyfer y ddwy ysgol. Yna bydd y bws yn troi i'r chwith wrth dro Trawsmawr ac yn mynd heibio Knightsford i Deras Russell.

Bydd C11 a C12 yn cwrdd â C13 yn Nheras Russell fel y gall disgyblion fynd ar eu bws arferol i'r ysgol. Bydd C12 yn troi rownd yn Heol Rudd ac yn teithio heibio i'r Clwb Dairies (yr un llwybr ag arfer), a bydd C11 ac C13 yn mynd ar hyd Heol y Bragdy (yr un llwybr ag arfer).

Bydd trefniadau'r prynhawn gwrthwyneb i'r uchod.