Mwy na 100 o bobl ifanc yng Nghynhadledd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

306 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi cynnal ei Gynhadledd Ieuenctid Flynyddol ddydd Mercher, 25 Hydref ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

 

Daeth 160 o bobl ifanc, athrawon ac ymarferwyr i'r Gynhadledd Ieuenctid eleni, sef pen-blwydd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn 20 oed, a chafwyd trafodaethau a gweithdai i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant.

 

Clywodd y sawl oedd yno gan y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, a soniodd, fel siaradwr gwadd, am bwysigrwydd gwrando ar ein pobl ifanc. Pwysleisiodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies, i’r bobl ifanc fod eu hawliau’n cael eu hadlewyrchu yng ngweledigaeth a pholisïau’r Awdurdod Lleol a bod ganddo yntau, fel y Comisiynydd Plant, bolisi drws agored i wrando a chynghori cenhedlaeth y dyfodol.

 

"HAWLIAU GYDA'N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant" yw Cynhadledd Ieuenctid Flynyddol gyntaf Sir Gaerfyrddin ers y pandemig ac mae wedi'i threfnu mewn partneriaeth gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Caerfyrddin.

 

Gwahoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin bobl ifanc ac ymarferwyr o Ysgolion Uwchradd a Phrosiectau Ieuenctid o bob rhan o'r sir i gymryd rhan yn y digwyddiad gyda'r nod o ddod â gwasanaethau a sefydliadau ynghyd i greu digwyddiad grymusol ac addysgiadol i bobl ifanc 11-18 oed yn Sir Gaerfyrddin.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Y Cynghorydd Glynog Davies: “Roedd yn fraint cael bod yn y gynhadledd eleni, i gwrdd â'n pobl ifanc a chlywed eu barn am hawliau plant. Mae dathlu a chodi ymwybyddiaeth o hawliau plant mor bwysig wrth i ni anelu at greu Sir Gâr well i bobl ifanc. Diolch i bob un am ddod i'n Cynhadledd Ieuenctid heddiw ac am eich cyfraniad gwerthfawr.” 

 

I gael rhagor o wybodaeth gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio info@sirgar.gov.uk, mynd i'n gwefan www.youthsirgar.gov.uk neu ddilyn y sgwrs ar y Cyfryngau Cymdeithasol drwy ddefnyddio #HawliauGydanGilydd