Marchnad Fwyd Caerfyrddin

283 diwrnod yn ôl

Y Nadolig hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu bod 4 caban pren hardd dros dro yn cael eu gosod yn Rhodfa'r Farchnad, y tu ôl i dŵr y cloc yng nghanol tref Caerfyrddin, gan greu ardal fwyd dros dro. Bydd y farchnad fwyd yn cael ei chynnal rhwng 29 Tachwedd a 16 Rhagfyr.

Bydd y cabanau'n llawn bwyd a diod amrywiol, a ddarperir gan fusnesau bwyd o Sir Gaerfyrddin a siroedd cyfagos.

Dyma'r busnesau fydd yno:

  • Duff Nuts
  • Llŷr Davies – Cig Cymru
  • Cegin Hedyn
  • West Wales Chock Shop
  • Blasus Welsh Cakes
  • Cook 24
  • Bloomsugar Cakes
  • Good Carma
  • A Team Delights

Bydd Cegin Hedyn yn codi arian ar gyfer ei hapêl Dydd Nadolig, pan fydd yn darparu bwyd ac adloniant ar Ddydd Nadolig. Hefyd mae cyfle i ymweld â stondin Cegin Hedyn i roi ffrwythau a llysiau a fydd yn mynd tuag at ei hapêl. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch hyn, ewch i'w gwefan.

Fel rhan o'r dathliadau, bydd amrywiaeth o adloniant bob dydd Mercher a Sadwrn, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, côr Adran Ffynonddrain, ac ymddangosiad gan Mrs Siân Corn, a fydd ar gael i dynnu lluniau gyda phlant. Bydd Cook 24, cwrs porth i sgiliau bwyd a ddarperir gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant mewn cydweithrediad â Choleg Sir Gâr, yn darparu arddangosiadau coginio byw.

Mae Marchnad Fwyd Nadolig Caerfyrddin yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae'n mynd i fod yn 3 wythnos gyffrous yng Nghaerfyrddin, felly Lleol Amdani y Nadolig hwn a dewch i'n marchnad fwyd sy'n addas i deuluoedd y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

“Mae goleuadau'r Nadolig yng Nghaerfyrddin ynghynn, mae ein siopau a'n masnachwyr i gyd yn barod i groesawu cwsmeriaid, ac mae gennym farchnad fwyd wych i ddarparu lluniaeth i'r holl ymwelwyr â chanol y dref dros gyfnod y Nadolig.  Mae Caerfyrddin wedi dechrau cyfri'r diwrnodau tan y Nadolig ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr awyrgylch arbennig.”