Mae Digwyddiad Nadolig 100% Sir Gâr yn dychwelyd i dref yn eich ardal chi ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr eleni!

290 diwrnod yn ôl

Mae'n amser cyfrif y diwrnodau tan ddigwyddiad siopau sionc Nadoligaidd eleni! Angen syniadau newydd ar gyfer eich siopa Nadolig? Os felly, does dim angen edrych ymhellach, Digwyddiad Siopau Sionc Nadoligaidd 100% Sir Gâr yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman yw'r lle ichi.

Fel rhan o fenter 100% Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin, mae busnesau bach lleol yn cael cyfle i arddangos a gwerthu eu cynnyrch unigryw i bobl leol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Am gyfnod o dair wythnos yn Llanelli a Chaerfyrddin, a phythefnos yn Rhydaman, mae'r cyngor wedi sicrhau lleoliadau gwych yng nghanol y trefi i rannu rhywfaint o lawenydd Nadoligaidd.

Mae'r dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau hyn wedi'u cyhoeddi'n swyddogol, felly dewch i ymuno â ni yn ein siopau sionc Nadoligaidd gwych, yn llawn addurniadau Nadolig bywiog, anrhegion crefftus a bwyd a diod o ffynonellau lleol.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn bob wythnos.

Dyma'r dyddiadau a'r lleoliadau ar gyfer y digwyddiad sy'n addas i'r teulu:

Caerfyrddin - Rhodfa'r Santes Catrin hen siop Debenhams

Dydd Mercher 29 Tachwedd – Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 10:00- 16:00

Dydd Mercher 6 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 10:00- 16:00

Dydd Mercher 13 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 10:00- 16:00

I ychwanegu at y naws Nadoligaidd, bydd marchnad fwyd Nadolig pwrpasol y tu ôl i dŵr cloc y farchnad yn Rhodfa'r Farchnad yn cynnig rhywbeth at ddant pawb!

Llanelli - Rhodfa Stepney

Dydd Mercher 29 Tachwedd – Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 10:00- 16:00

Dydd Mercher 6 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 10:00- 16:00

Dydd Mercher 13 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 10:00- 16:00

Rhydaman - Stryd y Cei: gyferbyn â maes Parcio Carregaman

Dydd Mercher 6 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 10:00- 16:00

Dydd Mercher 13 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 10:00- 16:00

 

Daw digwyddiad Nadoligaidd 100% Sir Gâr i Sir Gaerfyrddin ar y cyd â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), menter gan Lywodraeth y DU i greu ffyniant mewn ardaloedd lleol a chynyddu gwariant gan bobl leol ar gyfer busnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

"Mae Digwyddiad Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr yn gyfle gwych i fusnesau bach lleol yn Sir Gaerfyrddin arddangos eu talent trwy werthu eu cynnyrch mewn lleoliad ar y stryd fawr".
Ychwanegodd wedyn "mae'n gyfle pwysig i ddathlu Sir Gaerfyrddin a phrofi cynnyrch lleol, gan gynnwys bwyd a diod, a chefnogi'r gymuned leol tra'n mwynhau ein hunain".

Fodd bynnag, os na allwch ddod i unrhyw un o'n digwyddiadau, gallwch ddod o hyd i'r holl fusnesau bach sydd wedi'u cofrestru â 100% Sir Gâr ar ein tudalen 100% Sir Gâr ar y wefan.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog busnesau bach nad ydynt eisoes wedi cofrestru i gofrestru trwy ein gwefan, a bydd hyn yn rhoi cyfle ychwanegol i fusnesau bach hyrwyddo a marchnata eu cynhyrchion i ystod ehangach o gwsmeriaid.

Cofrestrwch ymA