Dim RAAC yn ysgolion Sir Gaerfyrddin

298 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus ei ymchwiliadau helaeth i bresenoldeb Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth(RAAC) mewn ysgolion. Roedd yr arolygon cynhwysfawr hyn yn ymdrin â safleoedd a adeiladwyd yn ystod y cyfnod pan ddefnyddiwyd RAAC a'i gynnwys mewn toeau gwastad. 

Ar ôl archwilio'n drylwyr, gall Cyngor Sir Caerfyrddin gadarnhau nad oes olion o RAAC wedi'u nodi o fewn unrhyw un o'n lleoliadau ysgol. Mae'r canlyniadau yn tanategu ein hymrwmiad i sicrhau diogelwch a llesiant ein myfyrwyr, athrawon ac aelodau staff. 

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg.

Rydym yn cymryd diogelwch ein cyfleusterau addysgol o ddifrif, ac fe gynhaliwyd yr ymchwiliadau hyn gyda'r diwydrwydd a'r gofal mwyaf. 

Rydym yn falch o adrodd nad oes RAAC yn ein hysgolion, ac mae hyn yn rhoi  tawelwch meddwl i rieni, myfyrwyr a'r gymuned yn gyffredinol a hoffwn ddiolch i swyddogion y cyngor am eu gwaith caled ac am roi eu sylw llawn i'r dasg bwysig hon.”

Mae dull trylwyr y Cyngor o ymdrin â'r ymchwiliadau hyn yn dangos ei ymrwymiad i gynnal safonau uchel o ran diogelwch a chyfanrwydd pob adeilad addysgol. Yn ôl yr arfer mae llesiant myfyrwyr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer dysgu.

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Newsroom/NewSideContent.cshtml)