Dechrau ar y Dathliadau Nadolig yn Sir Gâr!

291 diwrnod yn ôl

Llun (o'r chwith i'r dde): Y Fonesig Nia Griffiths AS, Cadeirydd AGB Llanelli - Lesley Richards Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli – Cyng. Susan Phillips Cydymaith Maer Cyngor Tref Llanelli Enillydd y gystadleuaeth (categori babanod) Oakley a'i fam Maer Cyngor Tref Llanelli – Cyng. Nick Pearce Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd y Cyng. Louvain Roberts Cydymaith Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin – Cyng. Darren Price

Am benwythnos anhygoel yn Sir Gaerfyrddin i gychwyn cyfnod y Nadolig gyda miloedd yn dod ynghyd i fwynhau gweithgareddau yng Ngharnifal Nadolig Llanelli, Cynnau Goleuadau'r Nadolig yng Nghaerfyrddin a Gŵyl y Synhwyrau yn Llandeilo.

Dechreuodd y penwythnos gyda Charnifal a Chynnau Goleuadau'r Nadolig yn Llanelli, digwyddiad cymunedol blynyddol mwyaf Sir Gâr, gyda gorymdaith wych ledled y dref yn cynnwys dros 20 o lorïau, bysiau a thractorau wedi'u haddurno cyn gwylio arddangosfa tân gwyllt drawiadol i ddod â'r noson i ben.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Plant sydd wrth galon y gymuned yn Llanelli ac ar draws Sir Gaerfyrddin, mae eu cyfraniad i ddathliadau yn Llanelli wir yn pwysleisio hynny".
Ychwanegodd, "Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r partneriaid a wnaeth y digwyddiad hwn mor llwyddiannus, gan gynnwys Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli yn ogystal â chefnogaeth werthfawr Heddlu Dyfed-Powys".

Enillwyr cystadleuaeth "Dylunio Golau Nadolig" Ysgolion 2023 oedd Kieara Bradley ac Oakley Hughes-Picket ac mae eu dyluniadau wedi'u gwneud yn oleuadau y gellir eu gweld bellach yn hongian yng nghanol y dref.

Ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd, cafodd ymwelwyr â Chaerfyrddin fwynhau adloniant drwy'r dydd a oedd yn cynnwys dawnsio, cerddoriaeth fyw ac arddangosfa tân gwyllt dros y Castell.

Roedd ymddangosiad Siôn Corn a rhai o'i gorachod bach yn boblogaidd ymhlith y plant a oedd yn bresennol, a gallai rhieni fwynhau'r ystod eang o Gabanau Nadolig yn gwerthu bwyd a nwyddau â thema Nadoligaidd trwy gydol y dydd.

Roedd Gŵyl y Synhwyrau, sy'n 3 diwrnod o hyd, wedi sicrhau bod strydoedd Llandeilo yn llawn pobl a oedd yn ceisio prynu anrhegion o'r ystod eang o fwydydd, diodydd, celfyddydau a nwyddau'r cartref a oedd yn cael eu harddangos yn ogystal â gwrando ar gerddoriaeth ac adloniant byw gan gynnwys 'Ras Santa 5K'.


Diolch i'r holl drefnwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr (a Siôn Corn) am ddechrau'r paratoadau at y Nadolig yn Sir Gaerfyrddin yn y fath steil.