Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn

337 diwrnod yn ôl

Unwaith eto, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn, a gynhelir ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd ac a ddilynir gan 16 Diwrnod o Weithredu.

White Ribbon yw prif elusen y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, trais gan ddynion yn erbyn menywod yw'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar. Ond yn y pen draw, mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn fater i bawb, nid dim ond menywod. 

Derbyniodd y cyngor statws achrededig Rhuban Gwyn y DU am y tro cyntaf yn 2018 ac mae'n parhau i weithio i fynd i'r afael â thrais o'r fath.

Bydd baneri'r Rhuban Gwyn yn hedfan yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a neuaddau tref Llanelli a Rhydaman ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo'n borffor gyda'r hwyr ar 25 Tachwedd i ddangos cefnogaeth.

Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch ledled y sir - o glybiau chwaraeon, ymweliadau ar y cyd â'r heddlu ag adeiladau trwyddedig, ac yn ein canolfannau hamdden, ein theatrau, a'n llyfrgelloedd.

Trefnir Gorymdaith Rhuban Gwyn gan Joyce Watson Aelod o'r Senedd ddydd Iau, 23 Tachwedd, gan ddechrau ym Mharc Rhydaman am 1.15pm. Mae croeso i bawb ar yr orymdaith.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Gydlyniant Cymunedol: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwbl gefnogol o'r Ymgyrch Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gan ddynion. Mae ystod o wasanaethau'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau amrywiol dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn, gyda'r nod o atal trais o'r fath a chyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig i'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae gan bob person yn ein cymdeithas rôl i'w chwarae o ran trais tuag at fenywod gan ddynion - rhaid i ni beidio â'i oddef.”

Gellir cael cymorth yn lleol gan: Threshold (Llanelli) ar 01554 752 422 neu www.threshold-das.org.uk; Calan DVS (Rhydaman) ar 01269 597 474 neu www.calandvs.org.uk; Gwasanaeth Cam-drin Domestig Caerfyrddin ar 01267 238 410 neu www.carmdas.org a'r Goleudy ar 0300 123 2996 neu  www.goleudyvictimandwitnessservice.org.uk neu ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu ewch i https://gov.wales/live-fear-free i gael cyngor a chymorth am ddim 24/7.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch i www.whiteribbon.org.uk