Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol

295 diwrnod yn ôl

Gofynnir am farn preswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin er mwyn llunio Strategaeth Ddigidol newydd yr Awdurdod Lleol, sydd i'w lansio ym mis Ebrill 2024.

Dweud eich dweud

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi'n datblygu Strategaeth Ddigidol newydd a bydd eich adborth yn ein galluogi i lunio strategaeth ddigidol gadarn a fydd yn grymuso'r Cyngor i wasanaethu ein preswylwyr a'n busnesau yn well wrth symleiddio ein gweithrediadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon.

Mewn oes sy'n cael ei harwain gan arloesedd technolegol, mae'n hanfodol i lywodraeth leol addasu a chroesawu trawsnewidiad digidol. Pwrpas y Strategaeth Ddigidol fydd nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer sut mae preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff, partneriaid ac ymwelwyr yn parhau i elwa o fabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg a thrawsnewid gwasanaethau ledled ein sir.

Gyda'n gilydd, gan ddefnyddio technoleg ddigidol a data, gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n addas i'r diben ac sy'n ymateb i anghenion Sir Gaerfyrddin.

Nod yr Ymgynghoriad Cyhoeddus Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol yw casglu mewnwelediadau hanfodol gennych chi fel ein cwsmeriaid.

Drwy gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad Cyhoeddus Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol, bydd eich cyfranogiad a'ch mewnwelediadau yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio strategaeth ddigidol flaengar sy'n canolbwyntio ar bobl a fydd yn darparu effeithlonrwydd a phosibiliadau newydd. Gall hyn fod o fudd i chi fel ein cwsmeriaid a'r ystod eang o wasanaethau digidol y gall y Cyngor eu cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rydym yn cychwyn ar daith gyffrous i lunio Strategaeth Ddigidol newydd ac arloesol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Rydym yn byw mewn oes o ddatblygiadau arbennig mewn technoleg ddigidol ac mae'n hanfodol ein bod ni, fel awdurdod lleol, yn parhau i fod yn barod i groesawu'r trawsnewidiad hwn sy'n esblygu'n barhaus.

Mae eich llais yn cyfrif a gall eich syniadau wneud gwahaniaeth - felly cymerwch ran drwy ddweud eich dweud heddiw”

Mae'r Ymgynghoriad Cyhoeddus Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol ar agor tan ddydd Iau, 7 Rhagfyr 2023.