Carnifal Nadolig Llanelli a Chynnau'r Goleuadau ar 17 Tachwedd

302 diwrnod yn ôl

Dim ond wythnos tan Carnifal Nadolig Llanelli 2023 - pan fydd gorymdaith fywiog o lorïau, slediau a thractorau yn teithio ar hyd strydoedd Llanelli ddydd Gwener, 17 Tachwedd.

 

Bydd teuluoedd o Lanelli, rhannau eraill o Sir Gaerfyrddin, a thu hwnt yn dod at ei gilydd yng nghanol y dref i ddathlu bod Nadolig wrth y drws, ac, wrth gwrs, i weld goleuadau Nadolig Llanelli yn cael eu cynnau.

 

Bydd yr hwyl yn dechrau am 4pm pan fydd reidiau'r ffair yn agor.

 

Carnifal Nadolig Llanelli yw un o'r digwyddiadau Nadolig cymunedol mwyaf yng Nghymru, ac fe'i cynhelir ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli, a darperir y ffair gan Showmen's Guild De Cymru.

 

Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth yn agosach at yr amser.

 

Mae mwy nag 17 o lorïau wedi'u cadarnhau, a bydd gorymdaith y carnifal ei hun yn gadael y Meysydd Gŵyl oddi ar Heol Sandy am 6.15pm, yn mynd i mewn i'r dref, ac yn cyrraedd yn fuan wedi i'r goleuadau Nadolig gael eu cynnau am 6.45pm.

Er mwyn gallu cynnal y carnifal yn ddiogel, bydd Heol yr Orsaf a Stryd yr Eglwys, Llanelli, ar gau o'r gyffordd â Stryd Murray i'r gyffordd â Gelli Onn, a hynny rhwng 5.45pm ac 8pm. Eleni fydd yr orymdaith yn teithio i lawr Heol yr Hen Gastell i mewn i Waunlanyrafon, ac ni fydd yn mynd i Heol y Frenhines Fictoria na Heol Erw o gwbl.

Hefyd bydd Gelli Onn ar gau i draffig sy'n teithio tua'r gorllewin yn unig, o'r gyffordd â Stryd Thomas.

Daw'r adloniant i ben drwy arddangosfa tân gwyllt am 7.45pm, ond bydd y ffair yn aros ar agor tan 9.00pm.

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth goleuadau'r Nadolig

Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cynghorau Gwledig a Thref Llanelli ac Ymlaen Llanelli, yn cynnal cystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig ac mae'r dyluniadau buddugol yn cael eu harddangos yng nghanol y dref.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai enillwyr 2023 yw Kieara Bradley, sydd wedi ennill y categori iau, ac Oakley Hughes-Picket, enillydd categori'r plant bach. Llongyfarchiadau mawr iddynt!

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Pa ffordd well o gychwyn paratoadau'r Nadolig nag ymuno yn nathliadau'r ŵyl yng Ngharnifal Nadolig Llanelli.
“Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig lle gall cymuned Llanelli gyfan a thu hwnt ddod at ei gilydd i ddathlu, mwynhau a chael hwyl. Ni fyddai trefnu Carnifal Nadolig ar y raddfa hon yn bosib heb waith caled llawer iawn o bobl a misoedd o gynllunio gofalus.”

Carnifal Llanelli - Amserlen ar gyfer y diwrnod

  • 12:00pm: Stryd Cowell ar gau
  • 4:00pm: Reidiau mawr a bach y ffair bleser yn agor ynghyd â stondinau yn ogystal â lluniaeth twym ac oer
  • 5.45pm: Ffordd orllewinol Gelli Onn ar gau, yn ogystal â Stryd yr Eglwys a strydoedd bychain.
  • 6.15pm: Gorymdaith y Carnifal yn gadael y Meysydd Gŵyl, Heol y Sandy*
  • 7:00pm: Gorymdaith y Carnifal yn cyrraedd ardal Neuadd y Dref*.
  • 7.40pm: Arddangosfa Tân Gwyllt Arbennig ** (Gerddi Neuadd y Dref)
  • 9:00pm: Ffair bleser yn cau

*Sylwch y gallai'r holl amserau a'r gweithgareddau newid. Bydd ffyrdd yn dechrau cael eu cau am 12 canol dydd, gan effeithio ar draffig canol y dref tan tua 8pm.

** Gallai'r amserau hyn newid yn sgil Gorymdaith y Carnifal

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y diwrnod, ewch i Darganfod Sir Gâr