Cabinet yn cymeradwyo cyllid i ddarparu trydan ar gyfer caeau ar safle gwersylla Parc Gwledig Pen-bre

304 diwrnod yn ôl

Cyn bo hir, bydd Safle Gwersylla Parc Gwledig Pen-bre yn gallu denu a darparu ar gyfer mwy o wersyllwyr dros nos yn ei gyrchfan wyliau, gan ei bod yn cael cefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Cyngor Sir Caerfyrddin.

Yn ystod cyfarfod Cabinet y Cyngor, ar 18 Medi 2023, rhoddodd Aelodau'r Cabinet sêl bendith i fenthyciad o £175,000 i'w roi i Adran Cymunedau'r Cyngor am fuddsoddiad i ddarparu trydan i gaeau ychwanegol ar safle gwersylla Parc Gwledig Pen-bre.

Bydd uwchraddio'r caeau, gan gynnwys gosod mesuryddion newydd ar gyfer Talu Fesul Sesiwn, yn cynhyrchu incwm ychwanegol tra hefyd yn annog gwersyllwyr i fod yn fwy effeithlon wrth ddefnyddio ynni ar y safle.

Cyfrifwyd cyfanswm cost y prosiect ar £195,000 gyda'r cyllid ychwanegol o £20,000 i'w ddarparu gan gyfraniad refeniw adrannol y Cyngor.

Bydd ad-daliadau'r benthyciad yn dechrau yn 2024/2025 a bydd yn £43,750 y flwyddyn dros bedair blynedd.

Rhagwelir y bydd y caeau wedi'u huwchraddio yn cynhyrchu incwm ychwanegol o £34,000 y flwyddyn ar gyfer Safle Gwersylla Parc Gwledig Pen-bre. Yn ychwanegol at hyn disgwylir y bydd arbedion ar gostau ynni, gan fod mesuryddion Talu Fesul Sesiwn yn cael eu gosod.

Y gobaith yw y bydd y caeau ychwanegol â thrydan yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n aros dros nos, a thrwy hynny gynyddu nifer y cwsmeriaid ac yn ei dro yn gwella gwariant eilaidd yn lleol ac yn ehangach yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Hyd yma, mae Cynllun Datblygu'r Cyngor wedi cefnogi tua hanner cant o brosiectau ar draws Sir Gaerfyrddin, gwerth tua £8.36m.
“Fel Cabinet, rydym yn cydnabod y manteision y bydd cymuned Pen-bre a'r diwydiant twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn eu cael o wella darpariaeth trydan i fwy o gaeau ar safle gwersylla Parc Gwledig Pen-bre ac rydym yn falch o roi cefnogaeth ariannol i'r cynllun.”