Caban Pentywyn yn cael 4 seren gan Croeso Cymru

282 diwrnod yn ôl

Mae un o lety gwyliau mwyaf newydd Sir Gaerfyrddin sef Caban, sy'n edrych dros draeth enwog Pentywyn, wedi derbyn dyfarniad arbennig o 4 seren gan Croeso Cymru ar gyfer y llety i westeion. Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rheoli'r llety 14 ystafell wely gyda bwyty a agorodd ym mis Mawrth 2023 ac mae eisoes wedi darparu ar gyfer cannoedd o dwristiaid sydd am fwynhau'r tywod euraidd a Llwybr Arfordir Cymru. Roedd adolygydd gwestai'r Daily Telegraph wedi rhoi adolygiad ardderchog i’r llety, ac mae eisoes yn ffefryn ymhlith y rhai sy'n chwilio am ystod eang o fwydydd a diodydd.

Fel rhan o'r cynllun twristiaeth ehangach, agorwyd Amgueddfa Cyflymder newydd sbon hefyd lle gall ymwelwyr brofi ystod o arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n adrodd hanes Traeth Pentywyn a'r recordiau cyflymder y byd anhygoel a gafodd eu creu yno.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans,

"Rydym wrth ein bodd gyda'r dyfarniad 4 seren gan Croeso Cymru, oherwydd bydd yn helpu i werthu Caban i dwristiaid ac ymwelwyr fel ei gilydd a gwella eu mwynhad o Bentywyn a'r cyfan sydd gan y pentref i'w gynnig”.

Aeth ymlaen i ddweud:  

"Mae agor Prosiect Denu Twristiaeth Pentywyn eleni yn cefnogi gweledigaeth Cabinet y Cyngor i gynyddu effaith economaidd leol ymwelwyr dydd a thwristiaid sy’n aros dros nos ar draws ardaloedd gwledig a threfol Sir Gaerfyrddin. Diolch i aelodau Tîm Caban am eu holl waith caled”.

Comisiynwyd y prosiect drwy gyllid gwerth miliynau o bunnoedd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) fel rhan o Gynllun Cyrchfan Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhoddion Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Croeso Cymru gan Lywodraeth Cymru, Cynllun Cymorth i Fuddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth ERDF a Chronfa Ysgogi Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn arian cyfatebol gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth am y Caban, ewch i'r wefan