Agoriad cae 3G newydd sbon Rhydaman

302 diwrnod yn ôl

Mae cae rygbi a phêl-droed 3G newydd sbon Ysgol Dyffryn Aman, gyda thrac rhedeg synthetig 6 lôn, wedi'i agor yn swyddogol heddiw, ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

 

I nodi'r agoriad swyddogol, cynhaliodd Cyngor Sir Caerfyrddin ŵyl chwaraeon ar gyfer yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Dyffryn Aman.

Roedd ambell gyn-ddisgybl nodedig iawn hefyd yn bresennol yn yr agoriad mawreddog, gan gynnwys Jac Morgan - Capten Rygbi Dynion Cymru, Hannah Jones - Capten Rygbi Menywod Cymru, Josh Griffiths – Rhedwr Marathon Elît a Shane Williams – un o arwyr pennaf rygbi Cymru.

Mae agor y cae 3G a'r trac athletau yn cwblhau cam olaf prosiect cyfalaf Cyngor Sir Caerfyrddin, lle mae buddsoddiad o £2 filiwn wedi'i wneud i greu'r cyfleuster newydd sbon hwn sydd o'r radd flaenaf.  

 

Fel rhan o'i fuddsoddiad parhaus yng nghyfleusterau Canolfan Hamdden Dyffryn Aman ac Ysgol Dyffryn Aman, mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi gosod wyneb newydd ar y cae 2G Hoci a Phêl-droed pob tywydd presennol sydd dan y llifoleuadau.

 

Roedd yn bosibl gosod wyneb newydd ar y cae pob tywydd drwy gyfuniad o gyllid ysgol, awdurdod lleol, Chwaraeon Cymru ac allanol o fwy na £300,000, ac roedd yn rhan o ail gam y gwaith a'r buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud ar y safle.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn i agor y cae chwaraeon 3G newydd a'r trac rhedeg yn swyddogol yn Ysgol Dyffryn Aman, a fydd yn sicrhau cyfleuster chwaraeon o'r radd flaenaf ar gyfer ardal Dyffryn Aman gyfan. 
 
“Roedd cael cae chwaraeon 3G newydd yn Rhydaman yn un o amcanion Datganiad Gweledigaeth Cabinet y Cyngor Sir, ynghyd â datblygu strategaeth ac asesu'r angen am gaeau pob tywydd ar draws y sir. Mae'n dda iawn gweld hyn yn dod i fwcwl er budd yr ardal a'r plant sy'n ei ddefnyddio yma heddiw ac am flynyddoedd i ddod.
 
“Mae'r buddsoddiad hwn yn Nyffryn Aman yn hollbwysig o ran datblygu ymagwedd 'chwaraeon i bawb' y Cyngor at gefnogi cael ystod eang i gymryd rhan mewn chwaraeon, o ddechreuwyr i'r elît.”