Aelod o'r Senedd Ieuenctid yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin

323 diwrnod yn ôl

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener 17 Tachwedd. Roedd Olivia Smolicz yn falch o gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Llundain ac ymunodd â dros 200 o Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid o bob rhan o'r DU.

Roedd y Senedd Ieuenctid, sy'n cynnwys pobl ifanc 11-18 oed, wedi defnyddio'r 13eg cyfarfod blynyddol i drafod pa faterion y dylai'r Senedd Ieuenctid roi blaenoriaeth iddynt yn 2024. Mae Olivia, sy'n 17 oed ac yn dod o'r Hendy, wedi bod yn aelod o'r Cyngor Ieuenctid ers 5 mlynedd.

Cyflwynwyd pob pwnc trafod ac ar ôl clywed amlinelliad o'r dadleuon o blaid ac yn erbyn pob pwnc, agorwyd y ddadl i'r llawr, a llwyddodd Olivia i gyfrannu a lleisio ei barn ar ran Sir Gaerfyrddin cyn defnyddio ei phleidlais i benderfynu pa fater fyddai'n dod yn ymgyrch genedlaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cadeiriwyd y cyfarfod eleni gan Lefarydd y Tŷ, y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, ar y cyd â’r Dirprwy Lefarydd, y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Rosie Winterton AS. Roedd Arweinydd y Tŷ, y Gwir Anrhydeddus Penny Mordant AS hefyd yn bresennol.

Mae Olivia, sy'n berson ifanc ymroddedig ac angerddol, yn disgrifio ei phrofiad isod.

“Gwnes i fwynhau bod yn Nhŷ'r Cyffredin yn fawr iawn, roedd yn brofiad rhagorol. Yn fwy na dim mi wnes i fwynhau gwrando ar farn pawb a pha mor wahanol oedd barn pawb am y gwahanol bynciau. Roedd gallu clywed safbwyntiau pawb yn anhygoel oherwydd mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o'r hyn sy'n digwydd yn y byd. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn”.

Mae canlyniad y bleidlais ddydd Gwener yn golygu y bydd Senedd Ieuenctid y DU yn canolbwyntio ar gyllid ac ariannu prydau ysgol am ddim ar draws y DU. Am ragor o wybodaeth am y cynnig hwn, ewch i'r ystafell newyddion ar y wefan Senedd Ieuenctid y DU.

Roedd Olivia yn croesawu'r penderfyniad hwn, dywedodd:

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ysgolion yn cael yr arian ychwanegol tuag at brydau ysgol gan y bydd o fudd i blant/pobl ifanc allu mwynhau eu prydau ysgol ac o bosib hyd yn oed gael gwell mynediad at brydau iach”.

Da iawn Olivia, ni'n edrych ymlaen at weld beth fyddi di'n ei gyflawni nesaf!

I wylio'r ddadl ddydd Gwener, ewch i wefan Parliament Live.

Am ragor o wybodaeth am y gwaith pwysig y mae Cyngor Ieuenctid y DU yn ei wneud, ewch i'w gwefan.