Y Cyngor yn rhybuddio ynghylch carbon monocsid y gaeaf hwn

317 diwrnod yn ôl

Mae tîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog preswylwyr i wirio eu systemau gwresogi a sicrhau bod synhwyrydd carbon monocsid yn cael ei osod yn eu cartrefi.

Gall offer sy'n defnyddio tanwyddau penodol (megis nwy, glo, coed neu olew), ollwng carbon monocsid os nad ydynt yn gweithio'n iawn, os yw'r ffliw wedi cael ei rhwystro, neu os nad yw'r ystafell wedi cael ei hawyru'n gywir.

Nid oes arogl, lliw na blas gan garbon monocsid, sy'n golygu ei fod yn anodd ei synhwyro a gall ei effeithiau achosi marwolaeth.

Cadwch lygad am yr arwyddion hyn a allai ddangos bod carbon monocsid yn bresennol:

  • Fflamau nwy'n llosgi'n oren neu'n felyn yn hytrach na glas
  • Staeniau huddygl yn ymddangos ar declynnau neu ychydig uwch eu pennau, waeth beth fo'r tanwydd sy'n cael ei losgi
  • Glo neu goed yn llosgi'n araf neu'n diffodd
  • Tanau'n anodd eu cynnau, a allai olygu nad yw'r ystafell wedi'i hawyru'n iawn
  • Y simnai neu'r ffliw wedi'i rhwystro – cadwch lygad am fwg yn yr ystafell;
  • Symptomau anesboniadwy o ran blinder, cysgadrwydd, pen tost, pendro, poenau yn y frest, cyfog, gwendid yn y cyhyrau

Gall tîm Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor roi cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n pryderu am lefelau carbon monocsid yn ei eiddo. Ffôn 01267 234567 neu e-bost

Dylai offer gael eu profi a'u gwasanaethu bob 12 mis gan gontractwyr cymwys addas.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae carbon monocsid yn lladdwr tawel a dylem i gyd gymryd pob gofal i sicrhau bod ein hoffer yn peri cyn lleied o risg â phosibl. Sicrhewch fod unrhyw offer yn y cartref sy'n llosgi tanwydd fel nwy, glo, coed neu olew yn cael eu gwirio'n rheolaidd gan beiriannydd cymwys yn ogystal â sicrhau bod synhwyrydd carbon monocsid wedi'i osod o fewn yr un ystafell â'r offer hyn.”