Y Cyngor yn lansio prosiectau i fywiogi a gwella canol trefi

318 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio prosiectau newydd i helpu i wella golwg canol ein trefi. 

Disgwylir i brosiect newydd cyffrous o'r enw Tacluso ein Trefi ddechrau yn yr hydref ac mae tîm ymroddedig wedi'i benodi i gynnal rhaglen o waith glanhau wedi'i dargedu at ganol trefi a strydoedd mawr ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd y tîm Tacluso ein Trefi yn cyflawni amrywiaeth o dasgau y tu hwnt i'r gwaith glanhau arferol a wneir i helpu i gadw'r ardaloedd hyn yn daclus a gwella golwg canol ein trefi. Mae hyn yn cynnwys tynnu a chwistrellu chwyn, cynnal a chadw blychau plannu blodau, paentio, golchi â chwistrell a llawer mwy.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud i ddechrau drwy raglen a drefnwyd ymlaen llaw yng nghanol tair prif dref y sir, yn ogystal â threfi gwledig, a bydd cyfleoedd i gymunedau gael dweud eu dweud o ran y math o waith a fydd yn digwydd a'r lleoliad wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen.

Mae’r broses ymgeisio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r tîm Tacluso ein Trefi bellach ar agor. Mae swyddi gwag i ddau weithredwr a gweithiwr arweiniol ar gael o fewn y tîm. Ewch i sirgar.llyw.cymru/swyddi

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Bydd cyflwyno'r tîm glanhau arbenigol hwn yn gwella golwg canol ein trefi yn fawr, gan ein galluogi i ehangu’r dyletswyddau y mae ein timau glanhau fel arfer yn eu cyflawni. Bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio ar ganol ein prif drefi, yn ogystal â threfi gwledig, drwy raglen o waith a drefnwyd ymlaen llaw.”

Bydd Angor Lle y Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd yn hwyluso nifer o brosiectau eraill sydd â'r nod o wella canol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys gwaith pellach i dacluso ein trefi, cymorth o ran digwyddiadau a chyllid eiddo gwag i fynd i'r afael â'r heriau parhaus sy'n wynebu canol trefi a strydoedd mawr yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal â chyflwyno tîm glanhau arbenigol, bydd y prosiect Tacluso ein Trefi yn cynnwys ychwanegu celfi stryd a phaentio asedau presennol, plannu a gweithio gyda pherchnogion eiddo i wella tu blaen eu heiddo drwy lanhau a phaentio.

Bydd cyllid eiddo gwag ar gael i berchnogion a lesddeiliaid (prydles 7 mlynedd o leiaf) a bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag ar y llawr gwaelod yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol unwaith eto. 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Bydd cyflwyno'r prosiectau hyn yn helpu i wella golwg canol trefi ledled Sir Gaerfyrddin, drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau, a fydd yn cynnwys sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.”

Ariennir Tacluso ein Trefi ac Angor Lle gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n biler canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a bydd yn darparu £38 miliwn o gyllid yn Sir Gaerfyrddin dros y ddwy flynedd nesaf hyd at fis Mawrth 2025.