Wythnos Democratiaeth Leol 2023

327 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Wythnos Democratiaeth Leol (16-20 Hydref) drwy annog pawb i gymryd rhan yn eu cymuned a dysgu rhagor am ddemocratiaeth leol.

Gallwch gymryd rhan drwy wneud y canlynol:

Gwylio cyfarfodydd y Cyngor, cymryd rhan a gwneud penderfyniadau – Gwahoddir preswylwyr i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd cyhoeddus Cyngor Sir Caerfyrddin yn bersonol neu'n rhithwir lle mae ystod eang o bynciau yn cael eu trafod a phenderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgorau Craffu.

Rhagor o wybodaeth am y cyfarfodydd sydd i ddod

Cymryd rhan yng ngrwpiau Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu  – Mae Pwyllgorau Craffu'r Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn gwella gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin drwy sicrhau bod polisïau'n adlewyrchu blaenoriaethau cyfredol, yn ogystal â hyrwyddo effeithlonrwydd ac annog gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol.

Gall Pwyllgorau Craffu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystod pob blwyddyn cyngor. Mae'r rhain yn is-grwpiau o'r prif bwyllgorau a gofynnir iddynt ymchwilio i faterion penodol a rhoi gwybod am ganfyddiadau ac argymhellion i'w cymeradwyo cyn eu cyflwyno i'r Cabinet. Gall preswylwyr gymryd rhan drwy fynychu cyfarfod, awgrymu pwnc i'w adolygu a darparu tystiolaeth.

Rhagor o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Craffu

Y Cyngor Ieuenctid – Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn grŵp o 50 o bobl ifanc 11-21 oed sy'n cynrychioli barn a safbwyntiau holl bobl ifanc y sir. Mae pedwar prif faes yn cael eu cynrychioli ar Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin addysg, cyffredinol, diddordeb arbennig a Senedd Ieuenctid Cymru.

Dewch i gynhadledd Hawliau gyda'n gilydd: Dathlu Hawliau Plant, ddydd Mercher 25 Hydref, 9.30am - 2.30pm ym Mharc y Scarlets i ddysgu rhagor am hawliau plant, clywed straeon ysbrydoledig gan bobl ifanc, darganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth yn eich cymuned a chwrdd â phobl ifanc eraill.

Rhagor o wybodaeth am Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

Ymgynghoriadau – Gwahoddir preswylwyr, busnesau a rhanddeiliaid yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan ym mhob ymgynghoriad cyhoeddus dan arweiniad y Cyngor sy'n helpu i lunio polisïau, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae democratiaeth leol ar ei orau pan fo lefelau uchel o ymgysylltu, pan fo eich lleisiau'n cael eu clywed a'u hystyried mewn polisi cyhoeddus a phenderfyniadau lleol. Mae nifer o fanteision o ymgysylltu â'n hymgynghoriadau megis; cryfhau llesiant cymunedol a gwydnwch, cynyddu ymddiriedaeth yn y broses ddemocrataidd, adeiladu cydlyniant cymunedol a helpu i gynhyrchu arbedion ariannol.

Gweld ymgynghoriadau byw y Cyngor a chymryd rhan

Cysylltu â Chynghorydd – Mae cynghorwyr wedi cael eu hethol i wasanaethu eu hardal leol ac maent yn gyswllt pwysig rhwng y Cyngor a'u cymuned, gan gydweithio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yn Sir Gaerfyrddin. Gall preswylwyr gysylltu â'u Cynghorydd lleol i drafod amrywiaeth o faterion neu i godi mater. 

Sut i gysylltu â'ch Cynghorydd lleol

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae Wythnos Democratiaeth Leol yn helpu i roi llais i bobl ac yn eu hannog i ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymuned. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan mewn democratiaeth leol i helpu i lunio dyfodol Sir Gaerfyrddin.”