Rhybudd am dywydd

352 diwrnod yn ôl

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wynt sy'n debygol o achosi aflonyddwch sylweddol ar draws y wlad.

Mae yna rybudd melyn hefyd am lifogydd lleol ar ffyrdd ac mewn ardaloedd arfordirol.

Gallai hyn arwain at lifogydd mewn cartrefi a busnesau, oedi neu ganslo gwasanaethau trenau a bysiau, a thoriadau pŵer posibl a cholli gwasanaethau eraill. Gallai dŵr yn tasgu a llifogydd arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd, felly gyrrwch yn ofalus a byddwch yn ymwybodol o amodau sy'n newid.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae nifer o rybuddion rhag llifogydd ar waith ar gyfer afonydd ledled Sir Gaerfyrddin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud. Os ydych yn pryderu am lifogydd ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.

Mae ein criwiau'n gweithio drwy gydol y penwythnos i wirio a chlirio draeniau a chwteri, ac maent wrth gefn rhag ofn y bydd unrhyw argyfyngau sy'n gysylltiedig â'r tywydd.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth ar unwaith ffonio 01267 234567 neu ar ôl 4pm ffoniwch ein llinell argyfwng drwy Llesiant Delta ar 0300 333 2222.Fel arall, gellir rhoi gwybod ar-lein.

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Newsroom/NewSideContent.cshtml)