Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gwrdd â'r Comisiynydd ar 27 Hydref

358 diwrnod yn ôl

Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn ystod cyfarfod nesaf y Panel yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron am 10.30am ddydd Gwener, 27 Hydref.

Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod ddydd Gwener yn cynnwys cwestiynau gan y Panel i'r Comisiynydd ynghylch y broblem lladrata o siopau, cynnydd y broblem yn genedlaethol ac ymateb Heddlu Dyfed-Powys iddi. Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn cael ei holi am y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc a'r rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion wrth fynd i'r afael â'r broblem hon. Bydd y Panel hefyd yn gofyn i Dafydd Llewelyn am adnoddau'r Heddlu i orfodi'r terfynau cyflymder newydd o 20mya yn Nyfed a Phowys.

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn cyflwyno Protocol Plismona'r Heddlu – Adroddiad Perfformiad, Adroddiad "Deep Dive" ynghylch Stelcian ac Aflonyddu ynghyd â Chynllun Busnes Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Dywedodd Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, yr Athro Ian Roffe:

“Mae llawer o storïau newyddion yn y wasg yn ddiweddar am blismona yn ardal Dyfed Powys ac rydym am glywed gan y Comisiynydd ynghylch y canlyniadau o ran sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol am gamau plismona.”

 Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron am 10.30am ddydd Gwener, 27 Hydref.

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi ac yn craffu ar waith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae'r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.