Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn dathlu Diwrnod Doctor Who

319 diwrnod yn ôl

Ydych chi'n chwilio am weithgareddau llawn hwyl am ddim yr hanner tymor hwn? Mae ein llyfrgelloedd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn brwydro i weld pa lyfrgell all wau'r sgarff hiraf fel rhan o'u dathliadau ar gyfer pen-blwydd Doctor Who yn 60 oed – ac mae angen eich help chi arnyn nhw!

Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan yn yr her Eistedd a Gwau drwy alw heibio ac ychwanegu at hyd sgarff Doctor Who yn un o'r tair llyfrgell ranbarthol. Mae'r her yn dod i ben ar 23 Tachwedd, pan fydd y sgarffiau yn cael eu harddangos yn y llyfrgelloedd.

Bydd digon o ddathliadau eraill hefyd wedi'u cynllunio yn y tair llyfrgell ranbarthol i nodi'r pen-blwydd yn 60 ar 23 Tachwedd. Bydd gan bob llyfrgell arddangosfa Doctor Who yn ogystal â sesiynau gwneud, a gynhelir ar fore dydd Sadwrn, lle gall plant wneud Dalek neu Tardis o gardbord i'w harddangos yn y llyfrgelloedd. Bydd plant hefyd yn gallu gwneud eu bathodynnau eu hunain a mwynhau sesiynau sgrin werdd hwyliog.

Bydd canolfan Clipiau newydd yn Llyfrgell Caerfyrddin, sy'n caniatáu i breswylwyr ac ymwelwyr archwilio archifau gweledol ar-lein gan y BBC, S4C ac ITV, yn edrych yn ôl dros flynyddoedd o raglenni Doctor Who.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Os ydych chi'n hoffi Doctor Who neu beidio, mae digon yn digwydd i bawb yn ein Llyfrgelloedd yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin dros y mis nesaf, felly dewch draw i weld drosoch eich hunain. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld y sgarffiau lliwgar yn cael eu harddangos yno.”

Dyma restr lawn o'r gweithgareddau ym mhob llyfrgell:

 

Llyfrgell Rhydaman, 3 Stryd y Gwynt, Rhydaman:

  • 28 Hydref – Sesiwn Wneud am 10am
  • 4 Tachwedd – Sesiwn Wneud rhwng 10am a 12pm (5+ oed)       
  • 11 Tachwedd – Sesiwn Wneud am 10am (5+ oed)   
  • 18 Tachwedd - Sesiwn Wneud am 10am (5+ oed)
  • 23 Tachwedd - Doctor Who: Cardiau LED am 11am - 12pm (8+ oed)             
  • 23 Tachwedd - Doctor Who: Sgrin Werdd am 2pm - 3pm (9+ oed)             

 

Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, Caerfyrddin:                                                                 

  • 28 Hydref - Sesiwn Wneud: Adeiladu Dalek rhwng 10am a 12pm (oed 5+)            
  • 11 Tachwedd - Sesiwn Wneud: Adeiladu Dalek rhwng 10am a 12pm (oed 5+)            
  • 16 Tachwedd - Doctor Who: Argraffu 3D (Cylchau Allweddi Personol a Mowldio ar gyfer Siocled) 3.30pm – 4.45pm (9+ oed)      
  • 22 Tachwedd - Edrych yn ôl ar "Doctor Who"- sesiwn Cornel Clipiau am 2pm - 4pm (16+ oed)
  • 23 Tachwedd – Makerspace: Diwrnod Doctor Who: (Crefft MakeDo Tardis) am 3.30pm – 4.45pm (5+ oed) 

Llyfrgell Llanelli, Stryd Vaughan, Llanelli:                                                                      

  • 23 Tachwedd - Doctor Who: Sgrin Werdd am 3pm - 5pm (7+ oed)             
  • 24 Tachwedd - Doctor Who: Mowldio Siocled am 2pm - 5pm (9+ oed)            
  • 25 Tachwedd – Makerspace: Doctor Who: Gwneud Bathodynnau am 2pm - 5pm (8+ oed)