Ffordd rhwng Bwlchnewydd a Threfechan wedi ei chau 

352 diwrnod yn ôl

Mae Timau Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn brysur dros nos, Hydref 30, gan ymateb i nifer o alwadau i wneud y ffyrdd yn ddiogel.

Mae rhan o'r ffordd rhwng Bwlchnewydd a Threfechan wedi suddo oherwydd tywydd garw. Mae'r ffordd bellach ar gau ac mae gwyriadau'n cael eu rhoi ar waith. Am resymau diogelwch amlwg, rydym yn gofyn i bobl gadw draw o'r ardal.

Disgwylir i Storm Ciaran daro Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher a dydd Iau (Tachwedd 1-2). Rydym felly yn annog pob defnyddiwr ffordd a cherddwr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn ystod y dyddiau nesaf.