Datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn penderfyniad y Swyddfa Gartref ar Westy Parc y Strade – 10 Hydref 2023

333 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig heddiw, ddydd Mawrth 10 Hydref 2023, gan y Swyddfa Gartref o’r penderfyniad i dynnu’n ôl y cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty a Sba Parc y Strade yn Ffwrnes, Llanelli.

Mae’r Cyngor Sir yn falch bod y Swyddfa Gartref wedi dod i'r penderfyniad hwn. Roedd Arweinydd y Cyngor, Darren Price, a'r Prif Weithredwr, Wendy Walters, ill dau wedi ysgrifennu at Weinidogion y Swyddfa Gartref ac uwch-weision sifil yr wythnos diwethaf yn amlinellu eu pryderon am densiwn cynyddol yn y gymuned ac yn annog Llywodraeth y DU i dynnu pob bwriad ar gyfer y safle yn ôl.

Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a pherchnogion y gwesty i sicrhau bod safle Gwesty Parc y Strade yn cael ei reoli'n briodol, er lles cymuned Ffwrnes a Llanelli.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price:

Rwy'n croesawu’n fawr benderfyniad y Swyddfa Gartref i dynnu’n ôl y cynlluniau ar gyfer Gwesty Parc y Strade. Dyma'r penderfyniad cywir i'r gwesty, ac, yn bwysicach na hynny, y penderfyniad cywir i bobl Ffwrnes.

Nawr yw'r amser i gymuned Llanelli ddod at ei gilydd, yn dilyn profiadau’r misoedd diwethaf.

O ran rhoi noddfa i bobl sydd mewn gwir angen, rwy’ am bwysleisio’r dyhead sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i barhau i groesawu ein siâr o geiswyr lloches o Wcrain, Affganistan a Syria i'n sir, a hynny drwy'r model gwasgaru sydd wedi gweithio'n llwyddiannus yn Sir Gâr ers blynyddoedd lawer.