Cyngor yn lansio ei Apêl Teganau Nadolig flynyddol

319 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ei Apêl Teganau Nadolig flynyddol sy'n helpu cannoedd o deuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion i'w plant.

Y llynedd, cefnogodd yr Apêl fwy o deuluoedd nag erioed a oedd yn cael trafferthion ariannol a dosbarthwyd mwy na 9,900 o anrhegion i 1,650 o blant.

Eleni gall pobl naill ai roi rhodd ariannol neu adael anrhegion newydd - o gemau, eitemau celf a chrefft i bethau ymolchi ar gyfer pob oedran - o 18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau, yn un o nifer o fannau casglu o amgylch y sir. Yn anffodus, ni all yr apêl dderbyn rhoddion ail-law.

Mae ysgolion, canolfannau teulu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid yn nodi'r rheiny sydd fwyaf angen cymorth a bydd staff y cyngor yn dosbarthu'r anrhegion yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am yr Apêl Teganau Nadolig:

“Mae ein Hapêl Teganau Nadolig yn cael ei chynnal am y 13eg tro eleni ac mae'r gefnogaeth rydym wedi'i derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw gan drigolion, busnesau a sefydliadau ar draws y sir wedi bod yn anhygoel. Os ydych chi’n gallu, gofynnwn yn garedig, unwaith eto, i chi brynu anrheg ychwanegol neu roi rhodd ariannol, waeth pa mor fawr neu fach, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cannoedd o blant ar draws y sir a fydd yn derbyn anrheg ar Ddydd Nadolig.”

Gallwch roi arian neu siec drwy fynd i'n desgiau talu yn y canolfannau Hwb yn Rhydaman a Llanelli neu yn Heol Spilman yng Nghaerfyrddin. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ffoniwch 01267 246504.

 

Dyma restr lawn o'r holl fannau casglu:

 

Caerfyrddin:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Heol y Gwyddau. SA31 1GA
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Neuadd y Sir, SA31 1JP
    Dydd Llun - Dydd Iau, 8.45am - 5pm
    Dydd Gwener, 8.45am - 4.30pm
  • Tesco, Lôn Morfa, SA31 3AX
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
    Dydd Sul, 10am - 4pm.
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan. SA31 3NQ     
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 6.30am - 9.30pm
    Dydd Sadwrn a dydd Sul, 8am - 6pm

Llanelli:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney. SA15 3TR      
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Tesco, Parc Trostre, SA14 9UY    
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 6am tan ganol nos
    Dydd Sul, 10am - 4pm.
  • Morrisons, Parc Adwerthu Pemberton, SA14 9DR           
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 7am - 10pm
    Dydd Sul, 10am - 4pm

Dyffryn Aman:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei. SA18 3BS   
    Dydd Llun - Dydd Iau, 9am - 5pm
    Dydd Gwener, 9am - 4.30pm
  • Canolfan Gymunedol Cwmaman, Y Stryd Fawr, Glanaman. SA18 1DX     
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 10am - 4pm

Llandeilo/Llanymddyfri:

  • Hengwrt (Menter Dinefwr) 8, Stryd Caerfyrddin. SA19 6AE          
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10am - 4.30pm
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri, Gerwyn House, Sgwâr y Farchnad.  SA20 0AB
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5.30pm (ond 9am - 4pm yn ystod gwyliau ysgol)

Sanclêr/Castellnewydd Emlyn:

  • Canolfan Hamdden Sanclêr, Heol yr Orsaf. SA33 4BT
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 8am - 9.30pm
    Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 8am – 2pm
  • Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, SA38 9LN        
    Dydd Llun - Dydd Gwener, 7.30am - 9pm
    Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 7.30am – 2pm

Cydweli:

  • Burns, Siop Fferm Parc y Bocs, Heol Caerfyrddin.  SA17 5AB           
    Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 9am - 5pm
    Dydd Sul, 10am - 4pm

*Bydd Hwb Bach y Wlad hefyd yn derbyn rhoddion. Gallwch weld pryd bydd yn ymweld â thref yn eich ardal chi drwy edrych ar yr amserlen yma