Cyngor yn ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn

330 diwrnod yn ôl

Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Caerfyrddin, Paul Thomas a Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog, Hayley Edwards yn derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn gwobr fawreddog am ei gefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae'r awdurdod yn un o blith dim ond 17 o gyflogwyr yng Nghymru i dderbyn gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr eleni.

Mae tair lefel i'r cynllun, sef Efydd, Arian ac Aur i sefydliadau sy'n addo, yn arddangos ac yn hyrwyddo cefnogaeth i Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Ym mis Gorffennaf 2022, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ailgadarnhau ei ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy ailarwyddo'r cyfamod, sy'n addewid i Gymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd y byddan nhw'n cael parch a thegwch. Yn yr un flwyddyn derbyniodd Wobr Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

I ennill y wobr Arian, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'u polisïau recriwtio. Hefyd, mae’n rhaid iddynt fynd ati i sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl ym maes amddiffyn o safbwynt milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, gwirfoddolwyr sy’n oedolion gyda’r cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad y mae cyn-filwyr ac aelodau o gymuned ehangach y Lluoedd Arfog yn eu cynnig. Mae'r tîm recriwtio yn gweithio'n rhagweithiol gyda Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, y Poppy Factory a The Forces Employment Charity i gael mynediad at gronfa gyflogaeth y lluoedd arfog i rannu cyfleoedd gwaith perthnasol.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Fel Cyngor, rydym yn cydnabod cyfraniad pwysig aelodau o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a'u teuluoedd a'r gwerth y maent yn ei roi i'n cymunedau a'n busnesau.

“Rydym yn falch iawn o gyflogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a chyflawni lefel arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn a cham nesaf yn unig yw’r cam hwn yn ein hymdrechion i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Byddwn hefyd yn y dyfodol agos, mewn sefyllfa i gynnig y cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gymuned y lluoedd arfog sy'n dymuno ymuno â'n gweithlu yn y dyfodol.”

Dywedodd Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog: “Mae derbyn y Wobr Arian yn dilysu'r gefnogaeth gadarnhaol sydd gennym yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.  Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwaith blaengar y mae ein tîm Adnoddau Dynol wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn gyflogwr sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd, a'n cam nesaf yw gweithio tuag at y Wobr Aur.”