Campwaith y Dadeni o'r Oriel Genedlaethol yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

339 diwrnod yn ôl

Gellir gweld Tobias a'r Angel (tua 1470-5), paentiad allor gan Weithdy Andrea del Verrocchio, yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd.

Cafodd ei ddadorchuddio yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn, 9 Medi a bydd yn cael ei arddangos i'r cyhoedd tan 7 Ionawr, 2024. Mae mynediad i'r amgueddfa yn rhad ac am ddim.

Mae'r paentiad yn rhan o Daith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol (2021-2023) sy'n cynnig cyfle i dair amgueddfa, oriel neu ganolfan gelf nad ydynt yn Llundain bartneru â'r Oriel Genedlaethol am dair blynedd i arddangos un gwaith celf mawr gwahanol o'i chasgliad bob blwyddyn.

Dyma'r drydedd arddangosfa a'r olaf o'r Daith Campweithiau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.  Y paentiad cyntaf a'r ail oedd The House of Cards gan Chardin (1740-1), a Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume (1635) gan Rembrandt.

Roedd Andrea del Verrocchio yn arlunydd blaenllaw yn Fflorens yng nghyfnod y Dadeni. Yn cael ei adnabod yn bennaf fel cerflunydd, roedd hefyd yn hyfforddi arlunwyr yn ei weithdy, gan gynnwys Leonardo da Vinci. Awgrymwyd bod Leonardo wedi paentio rhannau o Tobias a'r Angel.

Mae'r llun yn adrodd stori yn llyfr Beiblaidd Tobit. Mae Tobias yn fachgen ifanc a anfonwyd gan ei dad oedrannus, dall i gasglu dyled. Mae Duw yn anfon yr Archangel Raffael i fynd gyda Tobias a'i gi. Ar hyd y ffordd, mae Raffael yn cyfarwyddo Tobias i ddal pysgodyn ac yn ei gynghori y gellir defnyddio'r organau i greu eli i wella dallineb a chael eu llosgi i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd.

Tra roeddent ar eu taith aeth y ddau i ymweld â chyfnither Tobias, Sarah. Roedd hi wedi priodi saith gwaith, ond bob tro roedd cythraul wedi lladd ei gŵr cyn noson y briodas. Penderfynodd Tobias ei phriodi a dod â'r felltith i ben. Ar noson y briodas, llosgodd yr organau a oedd, fel yr oedd Raffael wedi rhagweld, yn gyrru'r cythraul i ffwrdd. Mae'r llyfr yn gorffen gyda dychweliad Tobias adref, lle cymerodd gyngor Raffael a gwella dallineb ei dad.

Archwilir themâu meddyginiaeth werin ac amddiffyniad rhag ysbrydion drwg mewn arddangosfa o eitemau o'r casgliad yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â phaentiad Tobias a'r Angel. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau panel cyffyrddol yn seiliedig ar y paentiad a grëwyd gan grŵp o wirfoddolwyr Stitch in Time yr amgueddfa.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae ein partneriaeth gyda'r Oriel Genedlaethol wedi caniatáu inni arddangos tri champwaith yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, a byddwn yn annog pobl o bob oed i ddod i ymweld â'r arddangosfa hon, sydd am ddim.

Hoffwn ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr sydd wedi llunio'r arddangosfa hon, gan eu bod wedi creu arddangosfa bwerus, gan gysylltu themâu o hanes gwerin cyfoethog Sir Gaerfyrddin â gwaith celf mawr yn gysylltiedig â'r Dadeni Eidalaidd - dau fyd na fyddent fel arfer yn cwrdd ond a all, drwy'r cyfle rhyfeddol o weithio mewn partneriaeth â'r Oriel Genedlaethol”.